Martin Freeman
Martin Freeman | |
---|---|
Ganwyd | Martin John Christopher Freeman 8 Medi 1971 Aldershot |
Man preswyl | Belsize Park |
Dinasyddiaeth | y Deyrnas Unedig |
Alma mater | |
Galwedigaeth | actor, actor teledu, actor ffilm, actor llais, actor llwyfan |
Partner | Amanda Abbington |
Gwobr/au | Gwobr MTV i'r Arwr Gorau, British Academy Television Award for Best Supporting Actor, Gwobr James Joyce, Romics d'Oro, Primetime Emmy Award for Outstanding Supporting Actor in a Miniseries or a Movie |
Actor o Loegr yw Martin John Christopher Freeman[1] (ganed 8 Medi 1971).[2] Daeth i amlygrwydd am bortreadu Tim Canterbury yn fersiwn gwreiddiol y Deyrnas Unedig o'r gomedi sefyllfa ar ffurf rhaglen ffug-ddogfen The Office. Chwaraeodd Dr. John Watson yn y ddrama drosedd Brydeinig Sherlock, Bilbo Baggins yn nhrioleg ffilmiau Peter Jackson The Hobbit, a Lester Nygaard yn y gyfres deledu ar ffurf drama drosedd-comedi dywyll Fargo.
Mae ei rolau nodweddiadol eraill yn cynnwys y gomedi ramantaidd Love Actually (2003), y ffilm ffuglen wyddonol gomig The Hitchhiker's Guide to the Galaxy (2005), y gomedi rannol-fyrfyryr Nativity! (2009), y drioleg gomedïaidd Three Flavours Cornetto, ac yn fwyaf adnabyddus yn y gomedi ffuglen wyddonol The World's End (2013). Mae hefyd yn portreadu Everett K. Ross yn ffilmiau'r Bydysawd Sinematig Marvel Captain America: Civil War (2016) a Black Panther (2018).[3] Ymhlith acolâdau eraill, mae wedi ennill Gwobr Emmy, Gwobr BAFTA a Gwobr yr Ymerodraeth, gydag enwebiadau gan gynnwys dau enwebiad Gwobr Emmy arall, dwy Wobr BAFTA arall, Gwobr Saturn, a Gwobr Glôb Aur.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "Martin Freeman (April 2012)" Archifwyd 2016-07-11 yn y Peiriant Wayback. Slow Boat Records. Retrieved 29 Mai 2013.
- ↑ Larman, Alexander. "Freeman, Martin (b. 1971)". BFI Screenonline. Retrieved 1 Ionawr 2012.
- ↑ Braun, J.W. (2010). The Lord of the Films. ECW Press.