Nepotiaeth
Cyhuddwyd Donald Trump o nepotiaeth wedi iddo rhoi swyddi amlwg i'w ferch Ivanka Trump a'i gŵr hithau Jared Kushner | |
Math | cronyism |
---|
Ffafriaeth a roddir i berthnasau neu gyfeillion agos yw nepotiaeth, enwedig ynglŷn â swyddi. Mae'r geiriau neigarwch, neigaredd, neiedd a nepotistiaeth[1] yn golygu'r un peth.[2] Mae'r holl eiriau hyn yn deillio o "nai" (nipote yw'r gair Eidaleg am "nai"). Mae hyn yn digwydd oherwydd yn aml yn y gorffennol byddai pabau yn penodi eu neiant i ddal swyddi uchel yn yr Eglwys Gatholig Rufeinig, waeth beth oedd eu haddasrwydd ar gyfer y swyddi hynny.[3] Roedd yr arfer pabaidd wedi'i hen sefydlu am ganrifoedd, nes i Bab Innocentius XII gyhoeddi'r bwl Romanum decet pontificem ym 1692.
Mae'r math hwn o ffafriaeth tuag at berthnasau wedi'i gondemnio'n aml, ond mae'n dal i fod yn gyffredin mewn sawl gwlad ac mewn amrywiol feysydd, gan gynnwys busnes, gwleidyddiaeth, adloniant, chwaraeon a chrefydd.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "Geiriadur Prifysgol Cymru". geiriadur.ac.uk. Cyrchwyd 2021-06-15.
- ↑ "In Praise of Nepotism: A Natural History". Adam Bellow Booknotes interview transcript (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 26 Medi 2010. Cyrchwyd 10 Medi 2013.
- ↑ "Article nepos". CTCWeb Glossary (yn Saesneg). Cyrchwyd 10 Medi 2013.