Olive Thomas
Olive Thomas | |
---|---|
Ganwyd | 20 Hydref 1894 Charleroi |
Bu farw | 10 Medi 1920 Neuilly-sur-Seine |
Dinasyddiaeth | Unol Daleithiau America |
Galwedigaeth | actor, model, actor llwyfan, sgriptiwr, actor ffilm, Ziegfeld girl |
Priod | Jack Pickford |
Actores a model Gwyddelig-Americanaidd oedd Olive Thomas (20 Hydref 1894 – 10 Medi 1920) a oedd hefyd yn actio mewn ffilmiau di-lais. Ei henw iawn oedd Oliva R. Duffy, ac weithiau roedd hi'n dweud mai ei henw iawn oedd Oliveretta Elaine Duffy.[1]
Yn 1914, cystadleuodd Thomas yn "The Most Beautiful Girl in New York City" ac enillodd. Dyna ddechrau ei gyrfa fel actoes a model. roedd yn rhan o'r grwp theatr o'r enw Ziegfeld Follies, yn Broadway, Efrog Newydd o 1915-?. Priododd yr actor Jack Pickford, brawd Mary Pickford, ym 1916.
Lladdodd ei hun drwy gymryd gwenwyn (arian byw).
Plentyndod
[golygu | golygu cod]Cafodd ei magu i deulu dosbarth gweithiol, Gwyddelig yn ardal Pittsburgh o Charleroi, Pennsylvania. Gweithiwr dur oedd ei thad, James Duffy, a fu farw yn 1906.[2] Ailbridodd ei mam Harry VanKirk a chafodd Thomas hanner chwaer, Harriet, yn 1914. Roedd hefyd ganddi ddau frawd: James Duffy (ganwyd 1896) a William Duffy (ganwyd 1899). Er mwyn ennill cyflog i gadw'r teulu gweithiodd mewn siop am $2.75 yr wythnos.[3] Yn Ebrill 1911, yn 16 oed, priododd Bernard Krugh Thomas yn McKees Rocks. Parhaodd y briodas tan 1913, a symudodd Thomas i Efrog Newydd.
Ffilmiau
[golygu | golygu cod]Blwyddyn | Teitl | Yn chwarae | Nodiadau |
---|---|---|---|
1916 | Beatrice Fairfax | Rita Malone | Rhif 10: Playball |
1917 | A Girl Like That | Fannie Brooks | Ffilm ar goll |
1917 | Madcap Madge | Betty | |
1917 | An Even Break | Claire Curtis | |
1917 | Broadway Arizona | Fritzi Carlyle | |
1917 | Indiscreet Corinne | Corinne Chilvers | |
1917 | Tom Sawyer | Choir Member | Uncredited |
1918 | Betty Takes a Hand | Betty Marshall | |
1918 | Limousine Life | Minnie Wills | Ffilm ar goll |
1918 | Heiress for a Day | Helen Thurston | Ffilm ar goll |
1919 | Toton the Apache | Toton/Yvonne | Ffilm ar goll |
1919 | The Follies Girl | Dol | |
1919 | Upstairs and Down | Alice Chesterton | Teitl arall: Up-stairs and Down Ffilm ar goll |
1919 | Love's Prisoner | Nancy, later Lady Cleveland | |
1919 | Prudence on Broadway | Prudence | Ffilm ar goll |
1919 | The Spite Bride | Tessa Doyle | |
1919 | The Glorious Lady | Ivis Benson | |
1919 | Out Yonder | Flotsam | |
1920 | Footlights and Shadows | Gloria Dawn | Ffilm ar goll |
1920 | Youthful Folly | Nancy Sherwin | Sgwennwr Ffilm ar goll |
1920 | The Flapper | Ginger King | |
1920 | Darling Mine | Kitty McCarthy | Ffilm ar goll |
1920 | Everybody's Sweetheart | Mary | Rhyddhau wedi ei marwolaeth |
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ (Golden 2001, p. 181)
- ↑ (Vogel 2007, p. 13)
- ↑ Pitz, Marylynne (26 Medi 2010). "Olive Thomas, the original 'Flapper' and a Mon Valley native, still fascinates". Pittsburgh Post-Gazette. Cyrchwyd 28 Medi 2010.