Pencampwriaeth Rygbi'r Pedair Gwlad 1883
Pencampwriaeth Rygbi'r Pedair Gwlad 1883 | |||
---|---|---|---|
Edward Traharne (Cymru) | |||
Dyddiad | 16 Chwefror - 3 Chwefror 1883 | ||
Gwledydd | Lloegr Iwerddon yr Alban Cymru | ||
Ystadegau'r Bencampwriaeth | |||
Pencampwyr | Lloegr (1af tro) | ||
Y Goron Driphlyg | Lloegr (Teitl 1af) | ||
Cwpan Calcutta | Lloegr | ||
Gemau a chwaraewyd | 5 | ||
Sgoriwr y nifer fwyaf o bwyntiau | Maclagan (4) | ||
Sgoriwr y nifer fwyaf o geisiadau | Wade (4) | ||
|
Pencampwriaeth Rygbi'r Pedair Gwlad 1883 oedd twrnamaint agoriadol cyfres Pencampwriaeth Rygbi'r Pedair Gwlad rygbi'r undeb. Chwaraewyd pum gêm rhwng 16 Rhagfyr 1882 a 3 Mawrth 1883. Fe'i hymladdwyd gan Loegr, Iwerddon, Yr Alban, a Chymru.
Lloegr oedd yr enillwyr cyntaf, ac wrth guro'r tair cenedl arall daeth yn enillydd gyntaf Y Goron Driphlyg er nad oedd yr ymadrodd yn cael ei ddefnyddio ar y pryd (dim hyd 1894).
Tabl
[golygu | golygu cod]Safle | Gwlad | Gemau | Pwyntiau | Pwyntiau tabl | |||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Chwarae | Ennill | Cyfartal | Colli | Dros | Yn erbyn | Gwahan. | |||
1 | Lloegr | 3 | 3 | 0 | 0 | 3 | 0 | +3 | 6 |
2 | yr Alban | 3 | 2 | 0 | 1 | 4 | 1 | +3 | 4 |
3 | Iwerddon | 2 | 0 | 0 | 2 | 0 | 2 | −2 | 0 |
3 | Cymru | 2 | 0 | 0 | 2 | 1 | 5 | −4 | 0 |
Canlyniadau
[golygu | golygu cod]System sgorio
[golygu | golygu cod]Penderfynwyd canlyniad y gemau ar gyfer y tymor hwn ar y goliau a sgoriwyd. Dyfarnwyd gôl ar gyfer trosiad llwyddiannus ar ôl cais, ar gyfer gôl adlam neu ar gyfer gôl o farc. Pe bai nifer y goliau'n gyfartal, byddai unrhyw geisiadau heb eu trosi yn cael eu cyfri i ganfod enillydd. Os nad oedd enillydd clir o gyfri'r ceisiadau, cyhoeddwyd bod yr ornest yn gêm gyfartal.
Y gemau
[golygu | golygu cod]Cymry v. Lloegr
[golygu | golygu cod]16 Rhagfyr 1882
|
Cymru | dim – 2 Gôl, 4 Cais | Lloegr |
---|---|---|
Cais: Wade (3) Bolton Henderson Thomson Trosiad: Evanson (2) |
Cymru: Charles Lewis (Coleg Llanymddyfri) capt., Harry Bowen (Llanelli), William Norton (Caerdydd), James Clare (Caerdydd),Charlie Newman (Casnewydd), David Gwynn (Abertawe), Edward Treharne (Pontypridd), Thomas Judson (Llanelli), Frank Purdon (Abertawe) Tom Clapp (Nant-y-glo), Bob Gould (Casnewydd), George Frederick Harding (Casnewydd), Alfred Cattell (Llanelli), Thomas Baker Jones (Casnewydd), George Morris (Abertawe)
Lloegr: AS Taylor (Blackheath), CG Wade (Prifysgol Rhydychen), Arthur Evanson (Prifysgol Rhydychen), WN Bolton (Blackheath), A Rotherham (Prifysgol Rhydychen), JH Payne (Broughton), RS Kindersley (Prifysgol Rhydychen), CS Wooldridge (Prifysgol Rhydychen), Harry Vassall (Prifysgol Rhydychen), Herbert Fuller (Prifysgol Caergrawnt), Graham Standing (Blackheath), WM Tatham (Prifysgol Rhydychen), Robert Henderson (Blackheath), GT Thomson (Halifax), ET Gurdon (Richmond) capt.
Dechreuodd Lloegr eu hymgyrch fuddugol trwy guro'r Cymry. Hwn oedd yr ail gyfarfod rhwng y ddwy wlad a'r gêm undeb rygbi rhyngwladol cyntaf un a gynhaliwyd ar dir Cymru.[1] Mae'r ornest hefyd yn cael ei chydnabod fel yr ornest gyntaf lle cafodd brodyr cyn chwaraewr rhyngwladol eu capio hefyd; Lloegr Arthur Evanson ac Arthur Taylor, brodyr Wyndham Evanson a Henry Taylor.[1] Y gêm hon oedd y gêm rygbi rhyngwladol cyntaf i gael ei ddyfarnu gan Gymro, sef A Herbert.[2]
Ar ôl cywilydd y cyfarfod cyntaf rhwng y ddwy ochr, pan gollodd Cymru o 13 cais, roedd y gêm hon yn cael ei hystyried yn welliant enfawr i Gymru. Cafodd Tîm 'cymwys' [3] Cymru eu dadwneud gan chware o'r ystlys yr ysgolhaig o Rydychen Gregory Wade, y cafodd tîm Cymru anhawster ei rwystro.
Yr Alban v. Cymru
[golygu | golygu cod]8 Ionawr 1883
|
yr Alban | 3 Gôl – 1 Gôl | Cymru |
---|---|---|
Cais: Macfarlan (2) Don-Wauchope Trosiad: Maclagan (3) |
Cais: Judson Trosiad: Lewis |
yr Alban: David Kidston (Glasgow Acads), Bill Maclagan (Albanwyr Llundain), D J Macfarlan (Albanwyr Llundain), W S Brown (Edinburgh Inst FP), Andrew Ramsay Don Wauchope (Fettesian-Lorettonians), Archibald Walker (Gorllewin yr Alban), Thomas Ainslie (Edinburgh Inst FP), J B Brown (Glasgow Acads), John Jamieson (Gorllewin yr Alban), D Y Cassels (Gorllewin yr Alban) capt., J G Mowat (Glasgow Acads), Charles Reid (Edinburgh Acads), D. Somerville (Edinburgh Inst FP), James Walker (Gorllewin yr Alban), William Andrew Walls (Glasgow Acads)
Cymru: Charles Lewis (Coleg Llanymddyfri) capt., William Norton (Caerdydd), Bill Evans (Rhymni), Charlie Newman (Casnewydd), George Frederick Harding (Casnewydd), John Arthur Jones (Caerdydd), John Griffin (Prifysgol Caeredin), Thomas Judson (Llanelli), Frank Purdon (Abertawe) Tom Clapp (Nant-y-glo), Bob Gould (Casnewydd), Alfred Cattell (Llanelli), Thomas Baker Jones (Casnewydd), George Morris (Abertawe), Horace Lyne (Casnewydd)
Hwn oedd y tro cyntaf i'r Alban a Chymru wynebu ei gilydd mewn gêm rygbi'r undeb. Collodd Cymru’r gêm agoriadol hon, a byddai’n cymryd chwe ymgais arall i’r Cymry dod yn fuddugol dros yr Albanwyr.[4]
Aeth Cymru i'r gêm un dyn yn brin, felly fe'u gorfodwyd drafftio'r Dr A. Griffin o Brifysgol Caeredin i lenwi'r bwlch.[1] Gwelodd yr ornest ddau ddigwyddiad tro cyntaf yn y Bencampwriaeth hefyd; y ddau frawd cyntaf i chwarae mewn gêm Bencampwriaeth AJ Walker a JG Walker, a hefyd y chwaraewr cyntaf i adael y maes oherwydd anaf, pan drodd JG Walker ei ben-glin yn y 15 munud cyntaf.[1]
Lloegr v. Iwerddon
[golygu | golygu cod]5 Chwefror 1883
|
Lloegr | 1 Gôl, 3 Cais – 1 Cais | Iwerddon |
---|---|---|
Cais: Bolton Tatham Twynam Wade Trosiad: Evanson |
Cais: Forrest |
Lloegr: Arthur Taylor (Blackheath), Charles Wade (Prifysgol Rhydychen), Arthur Evanson (Prifysgol Rhydychen), Wilfred Bolton (Blackheath), Henry Twynam (Richmond), John Payne (Broughton Rangers), Edward Moore (Prifysgol Rhydychen), Charles Wooldridge (Prifysgol Rhydychen), Bernard Middleton (Birkenhead Park), Herbert Fuller (Caergrawnt), Graham Standing (Blackheath), William Tatham (Prifysgol Rhydychen), Richard Pattisson (Prifysgol Caergrawnt), George Thomson (Halifax), Edward Temple Gurdon (Richmond) capt.
Iwerddon: JWR Morrow (Queen's College, Belfast), RE McLean (NIFC), RH Scovell (Prifysgol Dulyn), WW Fletcher (Kingstown), JP Warren (Kingstown), A Millar (Kingstown), SAM Bruce (NIFC), AJ Forrest (Wanderers), JW Taylor (NIFC), DF Moore (Wanderers), H King (Prifysgol Dulyn), JA McDonald (Methodist College, Belfast), RW Hughes (NIFC), FS Heuston (Kingstown), G Scriven (Prifysgol Dulyn) capt.
Er mai dyma'r cyfarfod cyntaf yn y Bencampwriaeth rhwng y gwledydd, hwn oedd y nawfed tro i Iwerddon a Lloegr wynebu ei gilydd mewn gêm rygbi'r undeb ryngwladol; a'r nawfed methiant gan y Gwyddelod i guro Lloegr. Wade oedd chwaraewr gorau'r Saeson unwaith eto.[3] Fodd bynnag, chwaraeodd Iwerddon y rhan fwyaf o'r gêm gyda 14 o ddynion, ar ôl i RW Hughes dynnu'n allan ar ôl dioddef salwch môr ofnadwy ar y fordaith garw ar draws Môr Iwerddon.[5] I Iwerddon bu pedwar chwaraewr rhyngwladol 'un cap', Fletcher, Warren, Forrest a Millar.
Iwerddon v. Yr Alban
[golygu | golygu cod]Iwerddon: JWR Morrow (Queen's College, Belfast), RE McLean (NIFC), WW Pike (Kingstown), AM Whitestone (Prifysgol Dulyn), SR Collier (Queen's College, Belfast), WA Wallis (Wanderers), SAM Bruce (NIFC), R Nelson (Queen's College, Belfast), JW Taylor (NIFC), DF Moore (Wanderers), H King (Prifysgol Dulyn), JA McDonald (Methodist College, Belfast), RW Hughes (NIFC), FS Heuston (Kingstown), G Scriven (Prifysgol Dulyn) capt.
Yr Alban: JP Veitch (Royal HSFP), Bill Maclagan (London Scottish), MF Reid (Loretto), GR Aitchison (Edinburgh Wanderers), PW Smeaton (Edinburgh Acads.), A Walker (West of Scotland), Thomas Ainslie (Edinburgh Inst FP), JB Brown (Glasgow Acads), John Jamieson (West of Scotland), DY Cassels (West of Scotland) capt., WA Peterkin (Edinburgh Uni.), C Reid (Edinburgh Acads), D. Somerville (Edinburgh Inst FP), D McCowan (West of Scotland), William Andrew Walls (Glasgow Acads)
Chwaraewyd y gêm gyntaf rhwng y ddwy wlad ym Mhencampwriaeth y Gwledydd Cartref ar gae dyfrlawn ar faes pêl-droed Ormeau Road. Dioddefodd tîm Iwerddon yn wael yn yr amodau ac ar un adeg roeddent yn chwarae gyda dim ond deg dyn oherwydd anafiadau.[5] Amddiffyn Gwyddelig trwm oedd yr unig reswm i'r llinell sgôr aros mor agos.
Parhaodd yr Alban â'u harfer o gapio bechgyn ysgol addawol gan gynnwys Marshall Reid, bachgen 18 oed o Ysgol Loretto.[5]
Yr Alban v. Lloegr
[golygu | golygu cod]Yr Alban: David Kidston (Glasgow Acads), Bill Maclagan (London Scottish), M F Reid (Loretto), W S Brown (Edinburgh Inst FP), P W Smeaton (Edinburgh Acads.), A Walker (West of Scotland), T Ainslie (Edinburgh Inst FP), JB Brown (Glasgow Acads), John Jamieson (West of Scotland), D Y Cassels (West of Scotland) capt., J G Mowat (Glasgow Acads), C Reid (Edinburgh Acads), D. Somerville (Edinburgh Inst FP), D McCowan (West of Scotland), William Andrew Walls (Glasgow Acads)
Lloegr: HB Tristram (Prifysgol Rhydychen), CG Wade (Prifysgol Rhydychen), Arthur Evanson (Prifysgol Rhydychen), Wilfred Bolton (Blackheath), A Rotherham (Prifysgol Rhydychen), JH Payne (Broughton), EJ Moore (Prifysgol Rhydychen), CS Wooldridge (Prifysgol Rhydychen), Robert Henderson (Blackheath), Herbert Fuller (Prifysgol Caergrawnt), Charles Gurdon (Richmond), WM Tatham (Prifysgol Rhydychen), RM Pattisson (Prifysgol Caergrawnt), GT Thomson (Halifax), ET Gurdon (Richmond) capt.
Gyda Lloegr a'r Alban yn fuddugol yn eu dwy gêm gyntaf, y gêm hon byddai'n penderfynu'r Bencampwriaeth. Defnyddiodd Lloegr chwe chefn, i bump yr Alban, a llwyddodd y dacteg gyda buddugoliaeth gul i Loegr. Cafodd sgorio un o geisiau Lloegr ei gyfarch â gwawd gan rannau o dorf Caeredin, a oedd yn destun gresynu gan lywydd Undeb Rygbi'r Alban yn y cinio ar ôl y gêm.[6]
Llyfryddiaeth
[golygu | golygu cod]- Godwin, Terry (1984). The International Rugby Championship 1883-1983. London: Willows Books. ISBN 0-00-218060-X.
- Griffiths, John (1987). The Phoenix Book of International Rugby Records. London: Phoenix House. ISBN 0-460-07003-7.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ 1.0 1.1 1.2 1.3 Godwin (1984), tudalen 2.
- ↑ "GRAND FOOTBALL MATCH - The Cambrian". T. Jenkins. 1882-12-22. Cyrchwyd 2020-06-14.
- ↑ 3.0 3.1 Griffiths (1987), tudalen 1: 5.
- ↑ "GREAT FOOTBALL MATCH - South Wales Daily News". David Duncan and Sons. 1883-01-09. Cyrchwyd 2020-06-14.
- ↑ 5.0 5.1 5.2 Godwin (1984), tudalen 3.
- ↑ Godwin (1984), tudalen 4.
Rhagflaenydd Dim Gemau gyfeillgar 1881-82 |
Pencampwriaeth y Pedair Gwlad 1883 gem gyntaf y bencampwriaeth |
Olynydd Pedair Gwlad 1884 |
|