Prifysgol Califfornia
Arwyddair | Let there be light |
---|---|
Math | system o brifysgolion taleithiol, prifysgol grant tir |
Sefydlwyd | |
Daearyddiaeth | |
Lleoliad | Oakland, Santa Barbara |
Gwlad | Unol Daleithiau America |
Cod post | CA 94607 |
Sefydlwydwyd gan | Frederick Low |
- Peidiwch â chymysgu y sefydliad hwn â Phrifysgol Talaith Califfornia neu Brifysgol De Califfornia.
System o brifysgolion cyhoeddus yn nhalaith Califfornia, Unol Daleithiau America, yw Prifysgol Califfornia. Mae'r system yn cynnwys campysau yn Berkeley, Davis, Irvine, Los Angeles, Merced, Riverside, San Diego, San Francisco, Santa Barbara, a Santa Cruz, ynghyd â sawl canolfan ymchwil arbenigol a chanolfannau tramor.
Sefydlwyd Prifysgol California ar 23 Mawrth 1868. Fe'i lleolwyd yn ninas Oakland cyn symud i ddinas Berkeley ym 1873. Dros amser, sefydlwyd sawl lleoliad cangen. Rhwng 1951 a 1960 cychwynnodd Prifysgol California broses o roi mwy o ymreolaeth i'w champysau cyfansoddol, ac roedd gan bob un ei ganghellor ei hun.
Yn 2020 roedd gan Brifysgol California 10 campws, 273,179 o fyfyrwyr, 22,700 o staff academaidd, 154,900 o staff arall, a dros 2 filiwn o gyn-fyfyrwyr yn dal yn fyw.[1] Mae'r cympysau wedi'u gwasgaru ledled y dalaith, o Davis yn y gogledd i San Diego, 516 milltir (830 km) i'r de.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "The University of California at a Glance" (PDF). Prifysgol Califfornia. Cyrchwyd 24 Hydref 2020.