Neidio i'r cynnwys

Pumlumon

Oddi ar Wicipedia
Pumlumon
Mathmynydd Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirCeredigion Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau52.467°N 3.783°W Edit this on Wikidata
Cod OSSN7897286945 Edit this on Wikidata
Map

Pumlumon yw'r mynydd uchaf yng nghanolbarth Cymru, yn yr Elenydd. Ceir pum prif gopa ar y mynydd: yr uchaf yw Pen Pumlumon Fawr (752 m). Mae ochrau gogleddol y mynydd-dir yn greigiog a'r ochrau deheuol yn llwm a mawnog.

Ystyr llumon yw "simnai" neu "corn y mwg". Felly "Y Pum Simnai" yw ystyr lythrennol yr enw Pumlumon (llurguniad Seisnigaidd yw'r ffurf Plynlimon). Y pum llumon yw:

Mae'r mynydd yn gorwedd yng ngogledd-ddwyrain Ceredigion gan ffurfio pwynt(au) uchaf yr ucheldir mawnog agored sy'n gorwedd rhwng Aberystwyth i'r gorllewin, Machynlleth i'r gogledd, Llanidloes i'r dwyrain a Ponterwyd i'r de. Ar lethrau dwyreiniol Pumlumon, o fewn tair milltir i'w gilydd, ceir tarddleoedd afonydd Hafren (yr afon hwyaf ym Mhrydain) a Gwy. Yng nghesail y mynydd, islaw ymyl ysgathrog gogledd Pumlumon, mae Llyn Llygad Rheidol, tarddle afon Rheidol. I'r gorllewin o'r mynydd ceir cronfa ddŵr Nant-y-moch.

Ymladdwyd Brwydr Hyddgen ger Pumlumon yn haf 1401, pan drechodd lluoedd Owain Glyndŵr lu o Saeson a Ffleminiaid. Bu ardal Pumlumon yn gadarnle i wŷr Glyn Dŵr ar gyfer ymosodiadau ar ardaloedd yn y Gororau.

Cerdded

[golygu | golygu cod]

Y llwybr hawsaf i gopa Pen Pumlumon Fawr yw'r hwnnw sy'n cychwyn o Eisteddfa Gurig, tua 427 m (1,400 troedfedd) i fyny ger y bwlch a ddringir gan yr A44 rhwng Aberystwyth a Llangurig. Ceir llwybr arall sy'n cychwyn o Nant-y-moch. Mae ardal Pumlumon yn adnabyddus am ei thirwedd mawnog a nodweddir gan nifer o gorsydd, ffrydiau a llynnoedd bychain. Mewn niwl mae'n gallu bod yn dir twyllodrus i gerddwyr ac mae map a chwmpawd yn hanfodol.

Pumlumon mewn llenyddiaeth

[golygu | golygu cod]

Hedegodd y "celwyddfarwn" Münchhausen o Bumlumon i'r Unol Daleithiau yn y llyfr enwog, Anturiaethau Barwn Münchhausen gan Rudolph Erich Raspe, pennod 31.

Copaon

[golygu | golygu cod]
Golygfa o Fanc y Garn
Lleoliad y copaon o Aberystwyth i'r Trallwng
Rhwng Aberystwyth a'r Trallwng
Enw Cyfesurynnau OS Cyfesurynnau Daearyddol
Banc Bugeilyn: SN826925  map  52.517°N, 3.731°W
Banc Bwlchygarreg: SN729918  map  52.509°N, 3.874°W
Banc Bwlchygarreg (copa gorllewinol): SN716914  map  52.505°N, 3.893°W
Banc Llechwedd-mawr: SN775898  map  52.492°N, 3.805°W
Banc Mynyddgorddu: SN667866  map  52.461°N, 3.963°W
Banc y Garn: SN706844  map  52.442°N, 3.905°W
Banc yr Wyn: SN741902  map  52.495°N, 3.855°W
Bryn Amlwg: SN921973  map  52.562°N, 3.593°W
Bryn y Fan: SN931884  map  52.483°N, 3.575°W
Bryn y Fedwen: SN840953  map  52.543°N, 3.711°W
Bryn yr Ŵyn: SN839925  map  52.517°N, 3.712°W
Bryn-hir: SN615861  map  52.455°N, 4.039°W
Bryn-y-Brain: SN817997  map  52.582°N, 3.747°W
Bryn-y-tail: SN916874  map  52.473°N, 3.597°W
Carn Hyddgen (Carn Gwilym): SN792908  map  52.501°N, 3.781°W
Carnedd Wen: SH924099  map  52.676°N, 3.592°W
Carnfachbugeilyn: SN826903  map  52.497°N, 3.73°W
Cefn Coch (Ffridd Esgair-yr-owen): SH815025  map  52.607°N, 3.751°W
Cefn Crin: SJ145045  map  52.631°N, 3.264°W
Clipyn Du (Tarren Bwlch-gwyn) (Siambr Trawsfynydd): SN799931  map  52.522°N, 3.771°W
Coed Mawr: SO013874  map  52.475°N, 3.454°W
Dinas (mynydd): SN904885  map  52.483°N, 3.615°W
Disgwylfa Fawr: SN737847  map  52.445°N, 3.859°W
Drosgol: SN759878  map  52.473°N, 3.828°W
Drybedd: SN772833  map  52.433°N, 3.807°W
Esgair Ddu: SH873106  map  52.681°N, 3.668°W
Esgair y Maesnant (copa de-ddwyreiniol): SN842856  map  52.456°N, 3.705°W
Ffridd Pen-y-Graig: SH842018  map  52.601°N, 3.711°W
Foel Fadian: SN828953  map  52.542°N, 3.729°W
Foel Fras (Pumlumon): SN765926  map  52.517°N, 3.821°W
Foel Grafiau: SN765920  map  52.511°N, 3.821°W
Foel Uchaf: SN802911  map  52.504°N, 3.766°W
Fron Goch: SH822013  map  52.596°N, 3.74°W
Garreg-hir: SN998977  map  52.567°N, 3.479°W
Llechwedd Hirgoed (copa de-ddwyreiniol): SN820832  map  52.433°N, 3.737°W
Llechwedd Hirgoed (copa gorllewinol): SN813836  map  52.437°N, 3.747°W
Llechwedd y Glyn: SN864872  map  52.47°N, 3.673°W
Moel Hyddgen (Pen y Darren): SN764943  map  52.532°N, 3.823°W
Moel y Llyn: SN712916  map  52.507°N, 3.899°W
Mynydd Moelfre: SN848983  map  52.57°N, 3.701°W
Mynydd Garth-Gwynion: SN733986  map  52.57°N, 3.87°W
Newydd Fynyddog: SH914004  map  52.59°N, 3.604°W
Pen Carreg Gopa: SN721947  map  52.535°N, 3.887°W
Pen Creigiau'r Llan: SN745939  map  52.528°N, 3.851°W
Pen Pumlumon Arwystli: SN814877  map  52.474°N, 3.747°W
Pen Pumlumon Llygad-bychan (copa dwyreiniol): SN799871  map  52.468°N, 3.769°W
Pen Pumlumon Llygad-bychan (is-gopa): SN801873  map  52.47°N, 3.766°W
Pen yr Allt-fawr: SN787961  map  52.549°N, 3.79°W
Pen-caenion: SO141964  map  52.558°N, 3.268°W
Pencerrigtewion: SN800881  map  52.477°N, 3.768°W
Penglais: SN595831  map  52.427°N, 4.067°W
Pumlumon Cwmbiga: SN830899  map  52.494°N, 3.724°W
Pumlumon Fach: SN787874  map  52.471°N, 3.787°W
Pumlumon Fawr: SN789869  map  52.466°N, 3.784°W
Rhos Fawr (mynydd): SN999883  map  52.483°N, 3.475°W
Stingwern Hill: SJ132014  map  52.603°N, 3.283°W
Upper Park: SJ189052  map  52.638°N, 3.199°W
Y Foel: SN838842  map  52.443°N, 3.711°W
Y Garn (Pumlumon): SN775851  map  52.45°N, 3.803°W

Gweler hefyd

[golygu | golygu cod]

Ffynonellau

[golygu | golygu cod]
  • Terry Marsh, The Mountains of Wales (Llundain, 1985)
  • Ioan Bowen Rees, Dringo Mynyddoedd Cymru (Dinbych, 1965)