Qatayef
Enghraifft o'r canlynol | bwyd |
---|---|
Math | pwdin |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Pwdin Arabaidd yw Qatayef, katayef neu qata'if (Arabeg: قطايف) a gaiff ei arlwyo'n aml yn ystod Ramadan. Gellir ei ddisgrifio fel rhyw fath o dwmplen melys, wedi'i llenwi â hufen neu gnau ac o ran golwg mae'n debyg i grempog wedi'i blygu.
Ffynhonnell y gair
[golygu | golygu cod]Mae'r gair qaṭaːyif (Arabeg: قطايف) yn deillio o'r gwreiddyn Arabeg qṭf, sy'n golygu codi neu blycio.[1][2]
Tarddiad
[golygu | golygu cod]Credir bod Qatayef o darddiad Fatimid, sef Califf Isma'ilistaidd o'r 10g.[3] Fodd bynnag, mae eu hanes yn dyddio'n ôl tipyn hwyrach na hyn: i'r Califf Abbasid, 750-1258 CE.[4][5] Crybwyllwyd Qatayef yn y 10g mewn lyfr coginio Arabeg gan Ibn al-Sayyar Warraq, llyfr o'r enw Kitab al-Ṭabīḫ (Arabeg: كتاب الطبيخ , Llyfr y Prydau).[6] Cyfieithwyd y llyfr yn ddiweddarach i'r Saesneg gan Nawal Nasrallah dan yr enw Annals of the Caliphs 'Kitchens.[7]
Yn draddodiadol, paratowyd Qatayef gan werthwyr stryd yn ogystal ag aelwydydd yn y Lefant a'r Aifft. Fel arfer mae'n cael ei lenwi â chaws akkawi.[8][9]
Paratoi
[golygu | golygu cod]Qatayef yw'r enw cyffredinol ar y pwdin, ac yn fwy penodol, ar y cytew neu batter. Fel rheol mae'n cael ei wneud allan o flawd, powdr codi, dŵr, burum, ac weithiau ychwanegir siwgr. Tolltir y cytew ar blât poeth crwn, ac mae'r cymysgedd yn ymddangos yn debyg i grempogau, ac eithrio'r ffaith mai dim ond un ochr sy'n cael ei goginio, yna ei stwffio a'i blygu.
Mae'r crwstyn wedi'i lenwi â chaws melys heb halen, cymysgedd o unrhyw un o gnau cyll, cnau Ffrengig, almonau, pistachios, rhesins, siwgr powdr, gwlyb y fanila, saws rhosod (ma-zahr ماء الزهر) a sinamon. Yna caiff ei ffrio'n ddwfn neu, yn llai cyffredin, ei bobi a'i weini â surop melys poeth neu weithiau fêl. Ffordd arall o paratoi'r qatayef yw drwy ei lenwi gyda hufen chwipio neu qishta (قشطة) hufen tolch, ei blygu hanner ffordd a'i weini gyda surop persawrus heb unrhyw ffrio neu pobi. Yr enw ar y ffordd hon o wasanaethu yw assafiri qatayef (قطايف عصافيري).[10]
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]- Mandugwa, pwdin tebyg o Corea
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Freytag, Georg (1830). Lexicon Arabico-Latinum praesertim ex Djeuharii Firuzabadiique et aliorum Arabum operibus, adhibitis Golii quoque et aliorum libris, confectum (arg. Vol.1). C. A. Schwetschke et filium. t. 468.
- ↑ Badawi, Al-Saïd; Abdel-Haleem, Muhammad. Arabic - English Dictionary of Qurʾanic Usage. BRILL. t. 767.
- ↑ "The Ramadan Experience in Egypt". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2019-05-07. Cyrchwyd 2018-06-18.
- ↑ life, style. "The sweet history of Qatayef". Roya news. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2018-05-17. Cyrchwyd 26 August 2018.
- ↑ 1, 2. "In Gaza, Qatayef tradition thrives during Ramadan". GULF NEWS. Cyrchwyd 26 August 2018.CS1 maint: numeric names: authors list (link)
- ↑ al-Warrāq, Ibn Sayyār; Nasrallah, Nawal (Nov 26, 2007). Annals of the Caliphs' Kitchens: Ibn Sayyār Al-Warrāq's Tenth-century Baghdadi Cookbook. BRILL. t. 422. Cyrchwyd 30 August 2018.
- ↑ al-Warrāq, Ibn Sayyār; Nasrallah, Nawal. "Annals of the Caliphs' Kitchens: Ibn Sayyār Al-Warrāq's Tenth-century Baghdadi Cookbook". books. Cyrchwyd 30 August 2018.
- ↑ Sadat, Jehan (2002). A Woman of Egypt. Simon & Schuster. p. 48.
- ↑ Abu-Zahra, Nadia (1999). The Pure and Powerful: Studies in Contemporary Muslim Society (yn Saesneg). Ithaca Press. ISBN 9780863722691.
- ↑ "Qatayef with nuts قطايف بالمكسرات | Egyptian Cuisine and Recipes". egyptian-cuisine-recipes.com (yn Saesneg). Cyrchwyd 2018-03-14.