Rhyfel Cyffuriau Mecsico
Gwedd
Mae'r erthygl hon yn cofnodi mater cyfoes. Gall y wybodaeth sydd ynddi newid o ddydd i ddydd. |
Rhyfel cyfredol yw Rhyfel Cyffuriau Mecsico rhwng cartelau cyffuriau sy'n brwydro'i gilydd a lluoedd llywodraeth Mecsico sy'n ceisio atal y fasnach cyffuriau. Ers cwymp y cartelau Colombiaidd Cali a Medellín yn y 1990au, mae cartelau Mecsico wedi llwyddo i ddominyddu'r fasnach cyffuriau yn yr Unol Daleithiau, ac mae'r cartelau Mecsicanaidd yn brwydro yn erbyn ymdrechion i atal eu gweithgareddau dros y goror. Mae'r Unol Daleithiau yn cynorthwyo Mecsico trwy Gynllun Mérida.