Richard Trevithick
Gwedd
Richard Trevithick | |
---|---|
Ganwyd | 13 Chwefror 1771 Tregajorran |
Bu farw | 22 Ebrill 1833 o niwmonia Dartford |
Dinasyddiaeth | Cernyw |
Galwedigaeth | fforiwr, dyfeisiwr, peiriannydd mwngloddiol, peiriannydd, peiriannydd rheilffyrdd, dylunydd locomotif |
Tad | Richard Trevithick |
Mam | Ann Teague |
Priod | Jane Harvey |
Plant | Francis Trevithick, John Harvey Trevithick, Frederick Trevithick, Richard Trevithick, Ann Trevithick, Elizabeth Harvey Trevithick |
Perthnasau | John Harvey, Andrew Vivian |
Peiriannydd ac adeiladwr y peiriant stêm cyntaf ar gledrau a oedd yn gweithio, oedd Richard Trevithick (13 Ebrill 1771 – 22 Ebrill 1833). Fe'i ganwyd yn Tregajorran, Cernyw.
Roedd yn fab i beiriannydd mwyngloddio a phan yn blentyn arferai weld peiriannau stêm yn sugno dŵr o'r pyllau tun a chopor dwfn yng Nghernyw.
Tynnodd cerbyd Trevithick ddeg tunnell o haearn a 70 o ddynion, o waith haearn Penydarren, Merthyr Tudful, hyd at Abercynon, pellter o 9.75 milltir, ar 12 Chwefror 1804. Ond yr oedd yn rhy drwm i'r trac oddi tano ac felly ddim yn effeithiol nac yn llwyddiannus iawn.