Plaid Genedlaethol yr Alban
Plaid Genedlaethol yr Alban Pàrtaidh Nàiseanta na h-Alba Scottis Naitional Pairtie | |
---|---|
Arweinydd | John Swinney |
Dirprwy Arweinydd | Keith Brown |
Arweinydd San Steffan | Angus Robertson |
Sefydlwyd | 1934 |
Unwyd gyda | Plaid Genedlaethol yr Alban Plaid yr Alban |
Pencadlys | Gordon Lamb House 3 Jackson's Entry Caeredin EH8 8PJ |
Asgell myfyrwyr | Ffederasiwn Myfyrwyr Cenedlaetholgar |
Asgell yr ifanc | Young Scots for Independence |
Aelodaeth | 125,482 [1] |
Cysylltiadau Ewropeaidd | European Free Alliance |
Grŵp yn Senedd Ewrop | Gwyrddion Ewrop (EFA) |
Lliw | Melyn a du |
Seddau'r Alban yn Nhŷ'r Cyffredin (Y Deyrnas Unedig) | 35 / 59
|
Seddau'r Alban yn Senedd Ewrop | 2 / 6
|
Senedd yr Alban | 62 / 129
|
Awdurdod Lleol yn yr Alban [2] | 421 / 1,227
|
Gwefan | |
http://www.snp.org/ |
Mae Plaid Genedlaethol yr Alban (Saesneg: Scottish National Party neu'r SNP, Gaeleg yr Alban: Pàrtaidh Nàiseanta na h-Alba neu'r PNA) yn blaid wleidyddol adain chwith-canol Albanaidd sy'n galw am annibyniaeth i'r Alban.[3][4] Sefydlwyd y blaid yn 1934, pum mlynedd wedi sefydlu Plaid Cymru, pan gyfunwyd 'Plaid Genedlaethol yr Alban' (Saesneg: National Party of Scotland neu'r NPS) a 'Phlaid yr Alban' (Saesneg: Scottish Party. John Swinney yw ei harweinydd cyfredol; hi hefyd yw Prif Weinidog yr Alban. Yn dilyn Refferendwm annibyniaeth i'r Alban, 2014, hi yw'r drydedd blaid mwyaf ei haelodaeth yn y Deyrnas Gyfunol, a'r fwyaf yn yr Alban - pedair gwaith yn fwy na Llafur yr Alban, Ceidwadwyr yr Alban a Rhyddfrydwyr yr Alban gyda'i gilydd.[5]
Cynrychiolwyd yr SNP yn San Steffan ers i Winnie Ewing ennill sedd etholaeth Hamilton dros yr SNP ym 1976, flwyddyn wedi i Gwynfor Evans ennill is-etholiad Caerfyrddin, i Blaid Cymru.[6] Pan agorodd drysau Llywodraeth yr Alban yn 1999, yr SNP oedd yr ail blaid gryfaf, a bu'n wrth-blaid am ddau dymor. Yn dilyn Etholiad yr Alban 2007, ffurfiodd Lywodraeth leiafrifol, ac yn 2011 roedd ganddi fwyafrif llethol, a ffurfiodd Lywodraeth yr Alban.[7] Yn 2015 roedd ganddi 105,000 o aelodau, 64 Aelod Llywodraeth yr Alban a 424 cynghorydd sir.[8] Yn 2015, roedd ganddi hefyd 56 allan o 59 Aelod Seneddol a dau aelod yn Senedd Ewrop, lle mae'n rhan o'r grŵp Cynghrair Rhydd Ewrop ac yn eistedd gydag aelodau'r Cynghrair Ewropeaidd y Blaid Werdd.
Syniadaeth craidd
[golygu | golygu cod]Mae ei syniadau gwleidyddol yn eitha tebyg i'r rhai Ewropeaidd ac yn gonglfaeni iddynt mae cymdeithas a democratiaeth. Ymhlith ei pholisiau y mae: priodas gyfunryw, gostwng oed pleidleisio i 16, diarfogi niwclear, gostwng trethi, dileu tlodi, codi tai fforddiadwy, addysg am ddim i bawb, gwrthwynebu codi gorsafoedd niwclear, buddsoddi mewn egni adnewyddadwy, dileu treth hedfan a chodi cyflogau nyrsus.[9][10]
Arweinyddiaeth
[golygu | golygu cod]- Syr Alexander MacEwen, 1934–1936
- Andrew Dewar Gibb, 1936–1940
- William Power, 1940–1942
- Douglas Young, 1942–1945
- Bruce Watson, 1945–1947
- Robert McIntyre, 1947–1956
- James Halliday, 1956–1960
- Arthur Donaldson, 1960–1969
- William Wolfe, 1969–1979
- Gordon Wilson, 1979–1990
- Alex Salmond, 1990–2000
- John Swinney, 2000–2004
- Alex Salmond, 2004–2014
- Nicola Sturgeon, 2014–2023
- Humza Yousaf, 2023–2024
- John Swinney, 2024–presennol
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]- Margaret Ewing
- Winnie Ewing
- Plaid Cymru
- Etholiad cyffredinol y Deyrnas Unedig, 2015
- Refferendwm annibyniaeth i'r Alban, 2014
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Murrell, Peter. "Peter Murrell". Twitter. Twitter. Cyrchwyd 4 April 2015.
- ↑ "http://www.gwydir.demon.co.uk/uklocalgov/makeup.htm". Gwydir.demon.co.uk. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2019-01-07. Cyrchwyd 1 Hydref 2013. External link in
|title=
(help) - ↑ Amir Abedi (2004). Anti-political Establishment Parties: A Comparative Analysis. Psychology Press. t. 72. ISBN 978-0-415-31961-4.
- ↑ Political Systems Of The World. Allied Publishers. t. 122. ISBN 978-81-7023-307-7.
- ↑ Sophie Warnes. "The Scottish National Party is now the third largest party in the UK". mirror.
- ↑ Heisey, Monica. "Making the case for an "aye" in Scotland". Queen's Alumni Review. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-05-05. Cyrchwyd 4 April 2015.
- ↑ Carrell, Severin (11 Mai 2011). "MSPs sworn in at Holyrood after SNP landslide". London: guardian.co.uk. Cyrchwyd 12 Gorffennaf 2011.
- ↑ "Vote 2012: Scotland - Councils". BBC News.
- ↑ Scottish National Party Manifesto "Re-elect a Scottish Government working for Scotland" Check
|url=
value (help). Scottish National Party. Cyrchwyd 17 October 2014. - ↑ "Cut to APD vital for Scotland's future success". Plaid Genedlaethol yr Alban. Archifwyd o'r Scottish National Party gwreiddiol Check
|url=
value (help) ar 2014-12-09. Cyrchwyd 6 Rhagfyr 2014.