Siop
Gwedd
Adeilad lle yr adwerthir nwyddau neu/a gwasanaethau yw siop. Daw'r gair Cymraeg o'r Saesneg Canol shop[pe], ond ceir hefyd fathiad Cymraeg: masnachdy, a maelfa. Ceir sawl math o siop ac maen nhw'n chwarae rhan annatod o fywyd yn y cyfnod modern. Ond ni cheir siopau ymhob cyfnod o hanes. Datblygodd siopau gyda thyfiant cylchrediad arian bath a datblygu'r fasnach economaidd yn nhrefi a dinasoedd yr Henfyd. Erbyn heddiw ceir amrywiaeth eang o siopau mawr a bach, o'r siop gornel mewn pentrefi i archfarchnadoedd anferth sy'n gwerthu pob dim dan haul bron.
Mathau o siopau
[golygu | golygu cod]- Archfarchnad
- Siop adrannol
- Siop Gymraeg
- Siopau Cymraeg Arlein
- Siop bwtsiar
- Siop bwydydd iach neu 'siop bwydydd naturiol'
- Siop bapur-newydd
- Siop gadwyn
- Siop groser
- Siop ddillad
- Siop elusen
- Siop fferins
- Siop wystl (pawnshop)
- Siop lyfrau
- Siop teganau
- Siop trin gwallt neu 'siop farbwr'
- Siop ryw
- Siop sgidiau
- Siop Sgod a Sglods neu 'siop tsips' neu siop sglods
Dywediadau
[golygu | golygu cod]- "Siop siafins" - llanast
- "Siop siarad" - talking shop
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]