Tortila
Bara crwn tenau a wneir o flawd corn neu weithiau flawd gwenith a fwyteir gyda llenwad sawrus yw tortila[1][2] neu tortïa[2] (Sbaeneg: tortilla). Mae'r tortilla yn fara croyw, hynny yw, bara dilefain (heb furum neu ychwanegiad sy'n peri i'r toes eplesu a chodi.
Prif fwyd Mecsico yw'r tortila ac yn hanesyddol dyma brif ffynhonnell calsiwm. Coginir yn draddodiadol drwy ferwi'r india corn (neu 'indrawn') gyda chalch brwd (calsiwm hydrocsid) i'w feddalu, a gwahanu'r rhan byw mewnol (y ffrwyth) a rhyddhau'r plisg a ddefnyddir i fwydo ieir. Yna, defnyddir melin law, sef carreg o'r enw metate, i falu'r grawn. Gwneir toes a gafodd ei dylino'n denau gan law, ac yna ei bobi ar comal, sef gridyll pridd neu haearn. Heddiw, prynir y mwyafrif o dortilas mewn tortillerías parod, masnachol, lle cymysgir a gwasgir y toes gan beiriannau, a'i goginio ar gludfelt dros dân.[3]
Ymddengys tortilas yn y mwyafrif o brydau Mecsicanaidd i gyd-fynd â seigiau, saws a stiw. Fe'u defnyddir fel amlen yn llawn o fwydydd eraill, yn hytrach na llwy. Weithiau caiff tortilas eu torri a'u ffrio'n greision. Plygir y tortila o gwmpas cig, ffa, caws a saws sbeislyd i wneud taco. Pobir tortila gyda llenwad o saws i wneud enchiladas. Tostada yw'r enw ar dortila wedi'i ffrio gyda chig, ffa, caws, letys, a thomato ar ei ben ei hun. Gwneir burrito drwy amlapio ffa a chig neu gaws mewn tortila o wenith. Caiff toes tortila ei siapio'n amryw o ffurfiau i wneud sopes, chalupas, quesadillas, a panuchos, eto gyda llenwad sawrus.[3]
Mae tortilas hefyd yn boblogaidd iawn mewn gwledydd eraill America Ladin a'r Unol Daleithiau.
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Geiriadur yr Academi, [tortilla].
- ↑ 2.0 2.1 tortila. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 22 Mai 2016.
- ↑ 3.0 3.1 (Saesneg) tortilla. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 23 Mai 2016.
Darllen pellach
[golygu | golygu cod]- Paula E. Morton. Tortillas: A Cultural History (Gwasg Prifysgol New Mexico, 2014).