Umm Kulthum
Umm Kulthum | |
---|---|
Ganwyd | فاطمه ابراهيم السيد البلتاجى 31 Rhagfyr 1898 Tamayy Elzahayra |
Bu farw | 3 Chwefror 1975 Cairo |
Label recordio | EMI Classics |
Dinasyddiaeth | yr Ymerodraeth Otomanaidd, Sultanate of Egypt, Brenhiniaeth yr Aifft, Republic of Egypt, Y Weriniaeth Arabaidd Unedig, Yr Aifft |
Galwedigaeth | canwr, actor, actor ffilm |
Arddull | music of Egypt |
Math o lais | contralto |
Priod | Q11099183, Hassan Alhifnawy |
Gwobr/au | Urdd y Rhinweddau, Urdd Goruchaf y Dadeni, Order of the Republic, Urdd Al Rafidain, Order of Civil Merit (Syria), Order of the Republic, National Order of the Cedar |
Cantores fawr y byd Arabaidd oedd Umm Kulthum. Sillafiad arall ar ei henw yw Oum Kalsoum (hefyd Om Kalthoum a sillafiadau eraill). (Yn ôl yr Arabeg أم كلثوم y cynaniad yw "ym cylthwm", a gellir dadlau felly fod y sillafiaeth gyntaf yn fwy cywir, ond mae'r ynganiad ar lafar yn amrywio rywfaint yn ôl gwlad a rhanbarth hefyd). Eu henw llawn oedd Umm Kulthum Ibrahim al-Sayyid al-Baltaji. Ganwyd hi yn Tamay-az-Zahayra, rhyw 100 km. (60 milltir) i'r gogledd o Cairo yn yr Aifft. Dydy dyddiad eu geni ddim yn sicr, efallai 4 Mai, 1904. Bu farw yn Cairo ar y 3 Chwefror, 1975.
Ei llysenw yn Arabeg yw "as-sit", "Y Foneddiges". Gelwir hi "Y Pedwerydd Byramid", "Seren y Dwyrain" a "Duwies y Gân Arabeg" hefyd. Mae hi wedi gwerthu dros 120 miliwn o recordiau. Mae ei cherddoriaeth yn gyfarwydd i bobl o bob oedran ar draws y byd Arabaidd ac yn cyfuno elfennau clasurol a dylanwadau newydd ar y pryd.
Disgograffeg ddethol
[golygu | golygu cod]Fel yn achos ei henw, sylwer fod trawslythreniad y teitlau Arabeg yn y rhestr hon yn amrywio. Mae eu caneuon wedi cael eu rhyddhau gan sawl cwmni dros y blynyddoedd a daw argraffiadau a chasgliadau newydd allan o hyd.
- Amal Hayati ("Gobaith fy mywyd")
- Enta Omri ("Ti yw fy nghariad")........ maqam kurd
- Fat el Mead ("Rhy Hwyr") .......maqam sikah
- Hagartek ("Gadewais Ti")
- Alif Leila wa Leila ("Mil ac Un o Nosweithiau")
- Sirat el Hob ("Cân Cariad").......maqam sikah
- Arouh li Meen ("At bwy ddylswn i droi?").......maqam rast
- Raq il Habeeb ("Atebodd fy Nghariad")
- Lessa Faker ("Ti'n cofio o hyd").......maqam ajam
- Hathehe Laylati ("Dyma fy noson")......maqam bayyati
- Al Atlal ("Yr Adfeilion")......maqam huzam
- Betfaker fi Meen ("Am bwy wyt ti'n feddwl?").....maqam bayati
- Hayarti Qalbi Ma'ak ("Rwyt ti wedi drysu fy nghalon")......maqam nahwand
- El Hobb Kolloh ("Cariad i gyd").......maqam rast
- Ental Hobb ("Ti yw Cariad").......maqam nahwand
- Leilet Hobb ("Noson o garu")
- Othkorene ("Cofia fi")
- Yali Kan Yashqiq Anini
- Es'al Rouhak ("Gofynna dy hun")
- Enta Fein Well Hobbi Fein ("Ble wyt ti a ble mae Cariad?")......maqam bayyati
- Dhikrayatun (Qessat Hobbi)
- Lel Sabr Hedod ("Mae terfyn i amynedd")......maqam sikah
- Baeed Anak ("Hebot ti").......maqam bayyati
- Hadeeth el Rouh ("Ymgom yr Enaid")......maqam kurd
- Gharibun Ala Bab el Raga
- Fakarouni ("Cefais fy argoffa").......maqam rast
- Zalamna El Hob ("Pechod yn erbyn Cariad")
- Ya Zalemny
- We Maret El-Ayam ("Aeth y dyddiau heibio").......maqam nahwand
- Hobb Eih ("Pa gariad?").....maqam bayyati
- Rubaiyat Al-Khayyam ("Penillion Omar Khayyam").......maqam rast
- Ya Msaharny ("Ti sy'n cadw fi'n effro y nos")