Neidio i'r cynnwys

Urdd Gobaith Cymru

Oddi ar Wicipedia
Urdd Gobaith Cymru

Logo canmlwyddiant yr Urdd gyda'r triongl gwyn, coch, a gwyrdd traddodiadol
Logo canmlwyddiant yr Urdd gyda'r triongl gwyn, coch, a gwyrdd traddodiadol

AnthemHei, Mistar Urdd
PencadlysGwersyll yr Urdd Glan-llyn
AelodaethDecrease 55,000 (2021)
Iaith / Ieithoedd swyddogolCymraeg
Chief ExecutiveSian Lewis
MascotMistar Urdd
Sefydlwyd25 Ionawr 1922
SefydlyddIfan ab Owen Edwards
LleoliadCymru
Gweithwyr313 (2019)
Gwefanhttps://www.urdd.cymru/cy/

Mudiad ieuenctid Cymraeg yw Urdd Gobaith Cymru â dros 56,000 o aelodau[1] rhwng 8 a 25 mlwydd oed. Sefydlwyd yr Urdd yn 1922. Mae’r Urdd yn fudiad unigryw gyda’r nod i ‘sicrhau cyfle, trwy gyfrwng yr iaith Gymraeg i holl ieuenctid Cymru ddatblygu’n unigolion cyflawn; a’u galluogi i chwarae rhan adeiladol yn y gymdeithas, gan feithrin sgiliau personol a chymdeithasol’. Mae dros 4 miliwn o blant a phobl ifanc wedi bod yn rhan o’r Urdd ers ei sefydlu.

Mae’r Urdd yn sicrhau bod darpariaeth sy’n addas i ddysgwyr Cymraeg yn ganolog i holl wasanaethau a chyfleoedd yr Urdd.

Mae Urdd Gobaith Cymru yn darparu cyfleoedd positif sydd yn ymestyn gorwelion pobl ifanc trwy gynnig profiadau chwaraeon, celfyddydol, preswyl, dyngarol, awyr agored, rhyngwladol, prentisiaethau a gwirfoddoli i blant a phobl ifanc yng Nghymru.

Hanes Urdd Gobaith Cymru

[golygu | golygu cod]
Merch mewn gwisg logo yr Urdd ym Mhorthmadog (1963).
Plant Gwersyll yr Urdd Llangrannog yn mwynhau ar draeth Llangrannog yn Awst 1947

Cafodd Urdd Gobaith Cymru ei sefydlu ym 1922, ac mae wedi datblygu yn barhaus ers hynny. Yn rhifyn mis Ionawr 1922 o ‘Cymru’r Plant’ meddai Syr Ifan ab Owen Edwards, "Yn awr mewn llawer pentref, a bron ym mhob tref yng Nghymru, mae’r plant yn chwarae yn Saesneg, yn darllen llyfrau Saesneg, ac yn anghofio mai Cymry ydynt."

Apeliodd ar blant Cymru i ymuno â mudiad newydd i gynnig cyfleoedd trwy’r Gymraeg, ac o ganlyniad i hynny, sefydlwyd Urdd Gobaith Cymru.

Crëwyd logo'r Urdd ar ffurf bathodyn ym 1944.

Yr Urdd heddiw

[golygu | golygu cod]
Gwersyll yr Urdd Caerdydd (2018)

Yn dilyn dathliadau canmlwyddiant y Mudiad, cyhoeddwyd Cynllun Corfforaethol Urdd Gobaith Cymru 2023-28, 'Urdd i Bawb'. Nod yr Urdd yw sicrhau cyfleoedd a phrofiadau, trwy gyfrwng y Gymraeg, i holl ieuenctid Cymru ddatblygu’n ddinasyddion cyflawn hyderus.[1]

Cyhoeddwyd Gwerth Economaidd yr Urdd i Gymru ym mis Tachwedd 2023 wedi gwaith annibynnol gan gwmni Arad oedd yn datgan fod yr Urdd yn dod â gwerth £44.9 miliwn i economi Cymru (£20M yn fwy na’r ffigwr gan Arad yn 2018). Dyma oedd trosiant uchaf yn hanes y Mudiad (2023) sef £19.6M o’i gymharu gyda £10.4M (yn 2018).[2]

·      55,000 o aelodau

·      10,000 o wirfoddolwyr

·      390 o staff

·      3,500 yn mynychu clybiau chwaraeon yn wythnosol

·      103,000 yn ymweld â'r gwersylloedd bob blwyddyn

·      Dros 70,000 yn cystadlu mewn Eisteddfodau Cylch a Rhanbarth

·      Cynhyrchu gwerth economaidd o £44.9miliwn i Gymru[3]

Prif Weithredwr Urdd Gobaith Cymru yw Siân Lewis.

Canolfannau preswyl

[golygu | golygu cod]

Mae’r Urdd yn cynnig profiadau preswyl mewn 4 canolfan preswyl, pob un ohonynt ag arbenigedd penodol:

Mae dros 47,000 o breswylwyr yn ymweld â Gwersylloedd yr Urdd yn flynyddol [5].

Nod y Gwersylloedd yw creu canolfannau sy'n cynnig cyfleoedd i blant, ieuenctid ac oedolion breswylio, addysgu a chymdeithasu mewn awyrgylch Cymraeg a Chymreig, diogel a chroesawgar.

Sefydlwyd 'Cronfa Cyfle i Bawb' sydd yn cynnig ariannu cyfnod ar wersyll haf i blant a phobl ifanc sy'n dod o gefndir incwm isel.

Darpariaeth chwaraeon

[golygu | golygu cod]

Mae adran chwaraeon yr Urdd yn darparu cyfleodd ar draws Cymru i bob plentyn wirioni ar chwaraeon trwy raglen o wyliau a chystadlaethau rhanbarthol a chenedlaethol. Cefnogir hyn gan rwydwaith eang o glybiau chwaraeon lleol a rhaglen cymhwyso arweinwyr chwaraeon ifanc.

Mae'r Adran Chwaraeon bellach yn cyflogi 45 o staff ac yn hyfforddi dros 1,000 o wirfoddolwyr yn flynyddol. Mae hyn wedi trawsnewid gallu’r mudiad i gynnig gweithgareddau cyson i blant a phobl ifanc, gyda 250 o glybiau chwaraeon yn cael eu cynnal yn wythnosol ar draws y wlad, a 3,500 o blant yn mynychu.

Mae'r Urdd yn cynnal rhai o gystadlaethau chwaraeon cenedlaethol fwyaf Cymru, gan gynnwys twrnamaint rygbi 7 bob ochr gwbl gynhwysol yr Urdd a'r WRU, a fynychwyd gan dros 7,000 o chwaraewyr yn 2024. Mae 44,000 o bobl ifanc yn cystadlu yng nghystadlaethau chwaraeon rhanbarthol a chenedlaethol yr Urdd yn flynyddol.

Celfyddydau a diwylliant

[golygu | golygu cod]

Mae Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd, un o wyliau teithiol mwyaf Ewrop sy'n denu tua 90,000 o ymwelwyr ar draws chwe diwrnod yn cael ei chynnal bob blwyddyn yn ystod wythnos y Sulgwyn. Gŵyl gystadleuol yw’r Eisteddfod yn cynnwys cystadlaethau megis canu, dawnsio a pherfformio, celf, dawns, offerynnol, llenyddol.

Cynhelir Eisteddfodau Cylch a Rhanbarth ar draws Cymru yn ystof misoedd y gwanwyn gyda’r enillwyr yn cyrraedd yr Eisteddfod Genedlaethol.

Cynhaliwyd Eisteddfod 2019 ym Mae Caerdydd. Yn 2020 a 2021, cynhaliwyd eisteddfodau digidol, Eisteddfod T o ganlyniad i'r pandemig. Cartref Eisteddfod yr Urdd 2022 oedd Dinbych, Llanymddyfri (Sir Gaerfyrddin) yn 2023 a Meifod yn 2024. Yn 2025 fe gynhelir yr Eisteddfod ym Mharc Margam (Eisteddfod yr Urdd Dur a Môr), cyn ymweld ag Ynys Môn yn 2026 a dinas Chasnewydd am y tro cyntaf erioed yn 2027.[6]

Cwmni theatr deithiol yw Cwmni Theatr Urdd Gobaith Cymru sydd yn rhoi cyfleoedd ar y llwyfan a chefn llwyfan i bobl ifanc i fwynhau ac ymestyn eu profiadau celfyddydol. Ail-lansiwyd Cwmni Theatr yr Urdd yn dilyn y pandemig ym mis Medi 2022, a bu i'r Cwmni berfformio eu cynhyrchiad cyntaf yn 2023, sef 'Deffro'r Gwanwyn'. Aeth cynhyrchiad newydd sbon ar daith o amgylch Cymru dros haf 2024, sef 'I ble mae trenau'n mynd gyda'r nos a chwestiynau mawr eraill bywyd' a chynhyrchiad 2025 fydd 'Ceridwen'.

Gwaith ieuenctid

[golygu | golygu cod]
Mr Urdd gyda'r dylunydd Wyn Mel (Wynne Melville Jones) yn Parêd Gŵyl Dewi Aberystwyth, 2023

Mae adran Ieuenctid a Chymuned yr Urdd yn canolbwyntio ar gynnig cyfleoedd celfyddydol amrywiol yn ogystal â chefnogaeth i wirfoddolwyr a chyfleoedd i blant a phobl ifanc gymdeithasu trwy gyfrwng y Gymraeg y tu allan i’r ystafell ddosbarth. Mae’r adran yn trefnu amrywiaeth o weithgareddau, o ddigidol a dyngarol i wyneb yn wyneb gan gefnogi cymunedau ledled Cymru. Maent hefyd yn cefnogi ysgolion i gystadlu yn Eisteddfodau’r Urdd yn ogystal â datblygu adrannau ac aelwydydd yr Urdd.

Prentisiaethau a sgiliau

[golygu | golygu cod]

Ers 2014, mae Urdd Gobaith Cymru wedi darparu cynllun Prentisiaethau cyfrwng Cymraeg a dwyieithog i bobl ifanc yng Nghymru. Adran Brentisiaethau’r Urdd yw un o brif ddarparwyr prentisiaethau cyfrwng Cymraeg yn y sector addysg ôl-16 yng Nghymru, gan arbenigo mewn prentisiaethau Cymraeg a dwyieithog yn y sectorau chwaraeon, hamdden, addysg awyr agored, gofal plant, addysg a gwaith ieuenctid. Ers degawd a mwy mae’r adran wedi ymrwymo i bontio’r bwlch rhwng addysg a chyflogaeth drwy helpu dros 1,000 o unigolion i ennill profiad gwaith a chymwysterau.[7]

Gweithgareddau awyr agored

[golygu | golygu cod]

Mae'r Gwasanaeth Awyr Agored yn cynnig gweithgareddau anturus i blant a phobl ifanc ar draws Cymru. Cynllunnir y gweithgareddau yn unol ag anghenion y grŵp ac ynghyd â chymwysterau a hyfforddiant awyr agored. Dyma un o’r gwasanaethau sydd yn datblygu’n gyflym ac yn boblogaidd iawn gyda phobl ifanc 15oed+. Urdd Gobaith Cymru yw darparydd mwyaf o alldeithiau Gwobr Dug Caeredin (DOFE) yn y Gymraeg yng Nghymru.

Gwirfoddoli

[golygu | golygu cod]

Mae cyfleoedd gwirfoddoli ar gael yn yr Urdd a thrwy ei phartneriaid allanol. Gall pobl ifanc ac oedolion gwirfoddoli trwy arwain adrannau ac aelwydydd, clybiau chwaraeon, ymweliadau a theithiau preswyl rhyngwladol, swyddogaethau amrywiol yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd a thrwy fod yn SWOG yn un o ganolfannau preswyl yr Urdd. Yn flynyddol mae 10,000 o bobl ifanc ac oedolion yn gwirfoddoli i’r Urdd.

Gwaith dyngarol a Neges Heddwch ac Ewyllys Da

[golygu | golygu cod]
Siân Lewis, Prif Weithredwr yr Urdd gyda Hilary Clinton yn dal gonc Mistar Urdd mewn digwyddiad ym Mhrifysgol Abertawe yn 2023

Pob blwyddyn ers 1922, mae plant a phobl ifanc Cymru wedi ysgrifennu a rhannu Neges Heddwch ac Ewyllys da at blant a phobl ifanc y byd, a hynny ar Ddydd Ewyllys Da, sef Mai 18. Nod y neges yw lleihau rhagfarn ac anwybodaeth gan bwysleisio'r hyn sy’n gyffredin i holl blant y byd.

Datblygir y neges hyd heddiw fel ymateb i ddigwyddiadau cyfoes, a thros y blynyddoedd derbyniwyd sawl ymateb o wledydd eraill. Mae'r broses o ysgrifennu ac anfon neges ar ran pobl ifanc Cymru i bobl ifanc ar draws y byd wedi ysbrydoli gweithgarwch dyngarol a rhyngwladol.

Mae gweithgareddau dyngarol y mudiad yn cynnwys, cefnogi ymgyrch i ddileu digartrefedd ymysg yr ifanc, cefnogi ymgyrchoedd a rhaglenni iechyd meddwl pobl ifanc a chodi arian i achosion lleol e.e. banciau bwyd lleol ac ysbytai.

Rhwydwaith o ddarpariaeth gymunedol

[golygu | golygu cod]

Trwy rwydwaith o 10,000 o wirfoddolwyr ymroddedig a 1,000 o glybiau, mae pobl ifanc Cymru yn medru mynychu gweithgareddau o fewn eu cymunedau. Mae gwirfoddolwyr a phobl ifanc yn arwain Adrannau (clybiau 8-11 oed) ac aelwydydd (11-25 oed).

Cyfleoedd rhyngwladol

[golygu | golygu cod]

Ers sefydlu'r Urdd rhoddwyd pwyslais ar gyfleoedd rhyngwladol, gan feithrin gwerthoedd byd eang y parchir yng Nghymru. Mae pobl ifanc yn cael y cyfle i lys-genhadu ar ran Cymru a’r Gymraeg. Ar drothwy ei chanmlwyddiant, mae ‘r Urdd wedi adfywio ac ehangu’r cynnig rhyngwladol i bobl ifanc. Fel rhan o strategaeth ryngwladol newydd yr Urdd, sefydlir partneriaethau newydd i greu cyfleodd mwy amrywiol. Heddiw mae pobl ifanc yn cael y cyfle i wirfoddoli ac ymweld ag Alabama USA, Kenya, Sydney Awstralia, Cameroon, Hong Kong and Shanghai, Patagonia a Hwngari.[8]

Cydweithiodd yr Urdd â TG Lurgan yn 2020-21 i ryddhau dehongliad o "Blinding Lights" gan The Weeknd, ‘Golau’n Dallu / Dallta ag na Solise’. Dyma'r tro cyntaf i gân gael ei wneud yn yr iaith Wyddeleg a'r iaith Gymraeg ar y cyd. Dywedodd Prif Weithredwr yr Urdd, Siân Lewis, “Waeth beth fo’r hinsawdd wleidyddol a sefyllfa Cymru y tu allan i Ewrop, fel sefydliad rydym ni’n awyddus i sicrhau fod ein pobl ifanc yn parhau i fwynhau profiadau unigryw fel hyn gyda chymheiriaid ledled y byd.” [9]

Hyd yma mae dros 1 miliwn wedi gwylio fideos cerddoriaeth aelodau’r Urdd a TG Lurgan, a fersiwn Cymraeg a Gwyddeleg o’r gân boblogaidd gan Florence & the Machine, ‘Dog Days are Over’, yw wythfed cyd-gynhyrchiad y mudiadau ieuenctid[10].

Cyhoeddiadau

[golygu | golygu cod]

Cynhyrchir dau gylchgrawn[11] i bant a phobl ifanc yn ddigidol ac yn rhad ac am ddim gan yr Urdd:

  • CIP — cylchgrawn bywiog Cymraeg i blant 7-10 oed (5 rhifyn y flwyddyn).
  • IAW — cylchgrawn cyfoes a lliwgar ar gyfer dysgwyr a siaradwyr Cymraeg newydd oed uwchradd. Mae'n llawn erthyglau difyr, gweithlenni addysgiadol a chynnwys diddorol ac atyniadol i bobl ifanc sy'n dysgu'r iaith.

Mistar Urdd

[golygu | golygu cod]

Mistar Urdd (Mr Urdd) yw masgot yr Urdd, wedi seilio ar logo a bathodyn Urdd Gobaith Cymru, mae yn boblogaidd gyda phlant, pobl ifanc ac oedolion. Mae gan Mistar Urdd ei gân ei hun sef "Hei Mistar Urdd."

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. "Cynllun Strategol Urdd Gobaith Cymru 2023-2028" (PDF). Urdd Gobaith Cymru.
  2. "Urdd contributed £45m to the Welsh economy last year". Nation.Cymru. 29 Tachwedd 2023.
  3. "Urdd Gobaith Cymru 'werth £45m' i economi Cymru". BBC Cymru Fyw. 2023-11-29. Cyrchwyd 2024-10-08.
  4. "Urdd: Agor gwersyll newydd ym Mhentre Ifan, Sir Benfro". BBC Cymru Fyw. 2023-09-28. Cyrchwyd 2024-10-08.
  5. https://en.wikipedia.org/wiki/Urdd_Gobaith_Cymru
  6. "Urdd Gobaith Cymru / Eisteddfod a'r Celfyddydau". www.urdd.cymru (yn Saesneg). Cyrchwyd 2024-10-17.
  7. "Prentisiaethau'r Urdd yn 'stori o lwyddiant mawr'". BBC Cymru Fyw. 2024-09-25. Cyrchwyd 2024-10-17.
  8. "Urdd Gobaith Cymru / Rhyngwladol". www.urdd.cymru (yn Saesneg). Cyrchwyd 2024-10-17.
  9. "Fideo cerddoriaeth Cymraeg a Gwyddelig cyntaf erioed". Golwg360. 2021-01-07. Cyrchwyd 2021-01-07.
  10. TG Lurgan (2024-09-30), Dog Days - Lurgan X Urdd - Gaeilge/Cymraeg, https://www.youtube.com/watch?v=eoNznPzw8Mg, adalwyd 2024-10-17
  11. "Urdd Gobaith Cymru / Cylchgronau". www.urdd.cymru (yn Saesneg). Cyrchwyd 2024-10-17.

Dolenni allanol

[golygu | golygu cod]