Uwchgynhadledd yr G7, 2024
Enghraifft o'r canlynol | G7 summit |
---|---|
Dechreuwyd | 13 Mehefin 2024 |
Daeth i ben | 15 Mehefin 2024 |
Rhagflaenwyd gan | Uwchgynhadledd yr G7, 2023 |
Olynwyd gan | 51st G7 summit |
Lleoliad | Fasano |
Gwladwriaeth | yr Eidal |
Gwefan | https://www.g7italy.it/ |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Cynhaliwyd 50fed Uwchgynhadledd yr G7 o Ddydd Gwener 13 Mehefin i Ddydd Sul 15 Mehefin 2024 yn Fasano, yn rhanbarth Puglia, yr Eidal, y wlad a oedd yn llywyddu'r fforwm y flwyddyn honno. Cyfarfu pennau llywodraethol y saith gwlad sydd yn aelodau'r G7: Giorgia Meloni, Prif Weinidog yr Eidal; Fumio Kishida, Prif Weinidog Japan; Rishi Sunak, Prif Weinidog y Deyrnas Unedig; Joe Biden, Arlywydd Unol Daleithiau America; Olaf Scholz, Canghellor yr Almaen; Emmanuel Macron, Arlywydd Ffrainc; a Justin Trudeau, Prif Weinidog Canada. Yno hefyd bu Ursula von der Leyen, Arlywydd y Comisiwn Ewropeaidd, a Charles Michel, Arlywydd y Cyngor Ewropeaidd, y ddwy swydd a wahoddir fel rheol i gynrychioli'r Undeb Ewropeaidd yn yr uwchgynhadledd.
Gwahoddwyd hefyd arweinwyr o 12 gwlad arall—Abdelmadjid Tebboune, Arlywydd Algeria; Javier Milei, Arlywydd yr Ariannin; Luiz Inácio Lula da Silva, Arlywydd Brasil; William Ruto, Arlywydd Cenia; y Pab Ffransis, pennaeth ar Ddinas y Fatican; Narendra Modi, Prif Weinidog India; Abdullah II, brenin Gwlad Iorddonen; Mohamed Ould Ghazouani, Arlywydd Mawritania (i gynrychioli'r Undeb Affricanaidd); Kais Saied, Arlywydd Tiwnisia; Recep Tayyip Erdoğan, Arlywydd Twrci; Mohamed bin Zayed Al Nahyan, Arlywydd yr Emiradau Arabaidd Unedig; a Volodymyr Zelenskyy, Arlywydd Wcráin—a phump o benaethiaid sefydliadau rhyngwladol, sef António Guterres, Ysgrifennydd Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig; Kristalina Georgieva, Rheolwraig-Cyfarwyddwraig y Gronfa Ariannol Ryngwladol (IMF); Ajay Banga, Llywydd Banc y Byd; Mathias Cormann, Ysgrifennydd Cyffredinol y Sefydliad dros Gydweithrediad a Datblygiad Economaidd (OECD); a Akinwumi Adesina, Llywydd Banc Datblygu Affrica.
Ar agenda'r uwchgynhadledd oedd deallusrwydd artiffisial, ymfudiad o Affrica i Ewrop, newid hinsawdd, a Tsieina.[1]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ (Saesneg) "Italy hosts the Group of Seven summit with global conflicts on the agenda", Associated Press (13 Mehefin 2024). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 13 Mehefin 2024.
Dolen allanol
[golygu | golygu cod]- (Eidaleg) Gwefan swyddogol