Neidio i'r cynnwys

William Butler Yeats

Oddi ar Wicipedia
William Butler Yeats
Ganwyd13 Mehefin 1865, 13 Mawrth 1865 Edit this on Wikidata
Dumhach Thrá Edit this on Wikidata
Bu farw28 Ionawr 1939 Edit this on Wikidata
Menton, Roquebrune-Cap-Martin Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Gweriniaeth Iwerddon Gwyddel
Alma mater
  • National College of Art and Design
  • The High School, Dublin Edit this on Wikidata
Galwedigaethbardd, dramodydd, llenor, gwleidydd, cyfrinydd, astroleg Edit this on Wikidata
SwyddSeneddwr Gwyddelig Edit this on Wikidata
Prif ddylanwadWilliam Blake, Friedrich Nietzsche, Edmund Spenser, Percy Bysshe Shelley, Oscar Wilde, William Morris, Emanuel Swedenborg, Jakob Böhme, Augusta Gregory Edit this on Wikidata
MudiadSymbolaeth (celf) Edit this on Wikidata
TadJohn Butler Yeats Edit this on Wikidata
MamSusan Pollexfen Edit this on Wikidata
PriodGeorgie Hyde-Lees Edit this on Wikidata
PartnerMaud Gonne, Olivia Shakespear, Margot Ruddock Edit this on Wikidata
PlantAnne Yeats, Michael Yeats Edit this on Wikidata
Gwobr/auGwobr Lenyddol Nobel, Plac Goethe Dinas Frankfurt am Main, Cymrawd o'r Gymdeithas Frenhinol a Llenyddol, Uwch Ddoethor Edit this on Wikidata
llofnod
Cerflun Yeats yn Sligeach
Bedd Yeats yn Droim Chliabh

Bardd a dramodydd Gwyddelig yn ysgrifennu yn Saesneg oedd William Butler Yeats (13 Mehefin 186528 Ionawr 1939). Roedd yn un o'r ffigyrau amlycaf yn y Dadeni Llenyddol yn Iwerddon ar droad yr 20g. Ystyrir ef yn un o'r beirdd pwysicaf i ysgrifennu yn Saesneg yn yr 20g. Dyfarnwyd Gwobr Lenyddol Nobel iddo yn 1923.

Bywgraffiad

[golygu | golygu cod]

Ganed Yeats yn Sandymount ger Dulyn, Iwerddon, mab yr arlunydd John Butler Yeats ac yn frawd yr arlunydd Jack B. Yeats. Bu farw ar 28 Ionawr 1939 yn Roquebrune-Cap-Martin ger Nice, Monaco. Claddwyd ef ym mynwent Drumcliff, ger Sligo yn Swydd Sligo.

Gwaith llenyddol

[golygu | golygu cod]

Er iddo ysgrifennu yn Saesneg roedd gan Yeats ddiddordeb mawr yn y Wyddeleg a llên gwerin ei wlad. Cyhoeddodd Fairy and Folk Tales of the Irish Peasantry (1888) ac Irish Fairy Tales (1892), dwy gyfrol a ystyrir yn glasuron ar y pwnc. Roedd mytholeg, hanes a thraddodiadau Iwerddon yn ysbrydoli llawer o'i gerddi hefyd, a hynny mewn ysbryd gwlatgar. Amlygwyd ei wladgarwch yn fwy uniongyrchol mewn cerddi sy'n ymwneud â'r ymgyrch dros annibyniaeth Iwerddon: un o'r enwocaf o'r cerddi hynny yw Easter 1916 sy'n seiliedig ar ddigwyddiadau Gwrthryfel y Pasg a dienyddio James Connolly, Pádraig Pearse ac eraill gan yr awdurdodau Prydeinig.

Llyfryddiaeth

[golygu | golygu cod]
  • The Wanderings of Oisin and Other Poems (1889)
  • The Celtic Twilight (1893)
  • The Lake Isle of Innisfree (1893)
  • The land of heart's desire (1894)
  • The secret rose (1897)
  • The Wind Among the Reeds (1899)
  • Cathleen ni Houlihan (1902)
  • Ideas of Good and Evil (1903)
  • In the Seven Woods (1904)
  • Discoveries (1907)
  • Deirdre (1907)
  • The green helmet (1910)
  • Responsibilities (1914)
  • The Wild Swans at Coole (1917)
  • Four Plays for Dancers (1921)
  • Four Years (1921)
  • The Cat and the Moon (1924)
  • A Vision (1925)
  • Autobiographies (1926)
  • The Tower (1928)
  • The Winding Stair and Other Poems (1933)
  • Collected Plays (1934)