Yr Adfywiad Gothig
Term am arddull mewn pensaernïaeth yn ystod y 19g a dechrau'r 20g yw'r Adyfwiad Gothig neu Neo-Gothig.
O'r Dadeni Dysg ymlaen ystyrrwyd pensaernïaeth Gothig yn farbaraidd (yn wir, pan fathwyd y term "Gothig" tua'r un adeg, roedd yn derm dirmygus yn cyfeirio at y Gothiaid) a daeth adeiladau yn yr arddull clasurol yn fwyfwy ffasiynol. Dim ond yn y 19g, pan ddatblygodd delwedd ramantaidd o'r Oesoedd Canol, y bu adfywiad o'r arddull, a ddechreuodd ym Mhrydain. Yn dilyn effeithiau gwaethaf y Chwyldro Diwydiannol roedd llawer o feddylwyr y cyfnod am ddychwelyd at ethos gwaith a Christnogaeth yr Oesoedd Canol, a mynegwyd hyn drwy bensaernïaeth yr oes.
Yng Nghymru, roedd gwaith John Prichard ar eglwysi yn ne-ddwyrain Cymru yn esiampl o'r arddull yma.
Parhaodd defnydd o'r arddull Gothig ar gyfer rhai eglwysi a phrifysgolion yn yr 20g.
Penseiri
[golygu | golygu cod]- George Frederick Bodley
- William Burges
- William Butterfield
- John Prichard
- A. W. N. Pugin
- George Gilbert Scott
- John Pollard Seddon
- George Edmund Street