Ysgol (addysg)
Am ddefnydd arall o'r gair "ysgol", gweler Ysgol (gwahaniaethu)
Lle a ddynodir ar gyfer addysgu yw ysgol. Fel arfer y mae'n sefydliad (ac yn adeilad) lle mae disgyblion neu fyfyrwyr, sydd fel arfer yn blant neu yn bobl ifainc, yn dysgu drwy law athrawon. Lle canolog y dysgu fel arfer yw'r ystafell ddosbarth, ond dim o angenrheidrwydd bob amser. Gall y dysgu fod mewn labordy er enghraifft, neu hyd yn oed yn yr awyr agored.
Mae'r math o sefydliad a ddisgrifir fel ysgol yn amrywio o wlad i wlad.
Gelwir yr hyn sy'n cael ei addysgu yn yr ysgol yn gwricwlwm a cheir Cwricwlwm Cenedlaethol sy'n nodi'n statudol yr hyn sy'n ofynnol i ddisgybl ei ddysgu.
Cymru
[golygu | golygu cod]Yng Nghymru ceir addysg mewn ysgolion cynradd i blant unarddeg oed ac iau ac ysgolion uwchradd o unarddeg tan ddeunaw oed os oes chweched dosbarth, ac o unarddeg tan 16 oed os nad oes gandddynt chweched dosbarth. Lle nad oes chweched dosbarth bydd y plant sydd am ddilyn addysg uwch yn mynychu Coleg Trydyddol.
Gelwir ysgolion cynradd sy'n dysgu trwy gyfrwng y Gymraeg yn Ysgolion Cymraeg a'r ysglion uwchradd sy'n dysgu trwy gyfrwng y Gymraeg yn neu Ysgol ddwyieithog neu'n Ysgol Naturiol Gymraeg fel a geir yng Ngwynedd.
Cafwyd cwricwlwm newydd ar gyfer Cymru ym Medi 2008, wedi'i osod gan y Cynulliad Cenedlaethol.[1] Mae’r cwricwlwm hwn yn cynnwys y meysydd canlynol:
- y Cyfnod Sylfaen;
- datblygu sgiliau;
- y cwricwlwm cenedlaethol;
- addysg bersonol a chymdeithasol;
- addysg rhyw;
- gyrfaoedd a’r byd gwaith;
- addysg grefyddol.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "Gwefan y Cynulliad Cenedlaethol". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2014-05-30. Cyrchwyd 2012-09-03.
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]- Owen Morgan Edwards (1858-1920); AEM, hanesydd, llenor, ymgyrchwr dros y Gymraeg
- Griffith Jones 'Llanddowror', (1683–1761); sylfaenydd yr Ysgolion Cylchynol
- Syr Hugh Owen (addysgwr), (1804-1881); addysgwr o Fôn
- Thomas Parry (ysgolhaig), (1904–1985); pennaeth Llyfrgell Genedlaethol Cymru a phrifathro ar Goleg Prifysgol Cymru, Aberystwyth