gwallt
Gwedd
Cymraeg
Cynaniad
- yn y Gogledd: /ɡwaːɬd/, [ɡwaːɬt]
- yn y De: /ɡwaɬd/, [ɡwaɬt]
Geirdarddiad
Celteg *woltos o’r gwreiddyn Indo-Ewropeg *u̯elh₂- ‘gwallt, blew, gwlân’ a welir hefyd yn yr Almaeneg Wald ‘coed’, y Lithwaneg váltis ‘col(a), panicl ceirch’, y Serbo-Croateg vlȃt ‘tywys ŷd’ a’r Hen Roeg lásios (λάσιος) ‘blewog’. Cymharer â’r Gernyweg gols, yr Hen Lydaweg guolt a’r Wyddeleg folt.
Enw
gwallt g (lluosog: gwalltiau)
- (anatomeg) Cnwd o flew ar ben dynol, heb gynnwys blew’r wyneb.
- Yn y Beibl, roedd holl nerth Samson yn ei wallt.
Termau cysylltiedig
Cyfieithiadau
|
|