Neidio i'r cynnwys

gweld

Oddiwrth Wiciadur, y geiriadur rhydd.

Cymraeg

Cynaniad

  • /ɡwɛld/

Geirdarddiad

Rhyngdoriad gweled o’r Gymraeg Canol gwelet o’r Gelteg *wel-o- o’r gwreiddyn Indo-Ewropeg *u̯el- ‘gweld’ a welir hefyd yn y Lladin vultus ‘wyneb’ a’r Otheg wulþus ‘gogoniant’. Cymharer â’r Gernyweg gweles, y Llydaweg gwelet, y Wyddeleg fuil ‘y mae’ (yn wreiddiol ‘gwêl!’) a’r Aeleg bheil.

Berfenw

gweld berf gyflawn ac anghyflawn (bôn y ferf: gwel-)

  1. Canfod gyda'ch llygaid.
  2. Deall rhywbeth.
    Dw i'n gweld beth ti'n meddwl.

Cyfieithiadau