John Philip Sousa
John Philip Sousa | |
---|---|
Ganwyd | 6 Tachwedd 1854 Washington |
Bu farw | 6 Mawrth 1932 o trawiad ar y galon Reading |
Man preswyl | Washington, John Philip Sousa House |
Dinasyddiaeth | Unol Daleithiau America |
Alma mater | |
Galwedigaeth | arweinydd, person milwrol, cyfansoddwr, sport shooter, llenor, arweinydd band, cyfarwyddwr |
Adnabyddus am | The Stars and Stripes Forever |
Arddull | opera, military band |
Priod | Jane Bellis Sousa |
Plant | John Philip Sousa II |
Gwobr/au | Order of Public Instruction, Royal Victorian Medal, seren ar Rodfa Enwogion Hollywood, Hall of Fame Americanwyr Mawr |
llofnod | |
Cyfansoddwr ac arweinydd cerddorfa o'r Unol Daleithiau oedd John Philip Sousa (/ˈsuːsə/;[1] 6 Tachwedd 1854 – 6 Mawrth 1932). Mae'n enwog am ei ymdeithganau milwrol a gwladgarol, ac fe'i elwir yn aml yn "Frenin yr Ymdeithganau" (Saesneg: The March King).[2]
Roedd yn fab i Bortiwgead ac Almaenes a chafodd ei eni a'i fagu yn Washington, D.C. Dysgodd y fiolin a damcaniaeth cerddoriaeth pan oedd yn blentyn, ac yn ei arddegau dysgodd y trombôn a dechreuodd arwain a chyfansoddi. Ymunodd â Chorfflu Môr-filwyr yr Unol Daleithiau ym 1868 fel prentis ym Mand y Môr-filwyr, ac o 1880 hyd 1892 roedd yn arweinydd y seindorf hon.[3] Ffurfiodd fand ei hunan ym 1892 a theithiodd ar draws yr Unol Daleithiau ac Ewrop (1900–05) ac yn hwyrach y byd (1910–11) yn perfformio cerddoriaeth filwrol a symffonig.[4]
Cyfansoddodd 136 o ymdeithganau milwrol gan gynnwys "The Washington Post" (1889), "The Liberty Bell" (1893), a "The Stars and Stripes Forever" (1897), a "Semper Fidelis" (1888) sydd yn ymdeithgan swyddogol Corfflu'r Môr-filwyr. Cyfansoddodd 11 o operetâu rhwng 1879 a 1915, gan gynnwys El Capitan (1896), The Bride Elect (1897), a The Free Lance (1906). Ysgrifennodd gasgliad o ganeuon o nifer o wledydd dan y teitl National, Patriotic and Typical Airs of All Lands (1890) ar gyfer Adran y Llynges. Yn y 1890au datblygodd yr offeryn a elwir heddiw yn sousaffon.[3]
Ymunodd Sousa â Llynges yr Unol Daleithiau yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf a daeth yn bennaeth y ganolfan hyfforddi cerddorol yng Nghanolfan Lyngesol y Llynnoedd Mawr yn Illinois. Ym 1928 cyhoeddodd ei hunangofiant, Marching Along.[3] Cyflwynodd ei gyfansoddiad "The Royal Welch Fusiliers" i'r Ffiwsilwyr Cymreig Brenhinol ym 1930 i nodi cysylltiad y gatrawd honno â Chorfflu Môr-filwyr yr Unol Daleithiau, perthynas a ffurfiwyd yn ystod Gwrthryfel y Bocswyr ym 1900.[5] Bu farw Sousa yn 77 oed yn Reading, Pennsylvania, o drawiad ar y galon.[6]
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]- Kenneth J. Alford, cyfansoddwr Prydeinig a elwir hefyd yn "Frenin yr Ymdeithganau"
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Merriam-Webster. Hefyd yn aml: /ˈsuːzə/.
- ↑ Bierley, Paul E. John Philip Sousa: American Phenomenon (Miami, Warner Bros. Publications, 2001 [1973]).
- ↑ 3.0 3.1 3.2 (Saesneg) John Philip Sousa. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 18 Awst 2013.
- ↑ Warfield, Patrick. "Making the Band: The Formation of John Philip Sousa's Ensemble", American Music, 24(1) Gwanwyn 2006, tt. 30–66.
- ↑ Griffin, P. D. Encyclopedia of Modern British Army Regiments (Thrupp, Sutton, 2006), t. 135.
- ↑ (Saesneg) John Philip Sousa, Band Leader, Dies in Hotel at Reading. The New York Times (6 Mawrth 1932). Adalwyd ar 18 Awst 2013.
Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- (Saesneg) John Philip Sousa ar wefan AllMusic
- (Saesneg) John Philip Sousa yn y Performing Arts Encyclopedia ar wefan Llyfrgell y Gyngres
- Genedigaethau 1854
- Marwolaethau 1932
- Arweinyddion o'r Unol Daleithiau
- Canwyr tiwba
- Cyfansoddwyr o'r Unol Daleithiau
- Pobl o Washington, D.C.
- Pobl fu farw o drawiad ar y galon
- Pobl o'r Unol Daleithiau o dras Almaenig
- Pobl o'r Unol Daleithiau o dras Bortiwgalaidd
- Swyddogion Corfflu Môr-filwyr yr Unol Daleithiau
- Swyddogion Llynges yr Unol Daleithiau