Affrica-Ewrasia
Gwedd
Enghraifft o'r canlynol | ehangdir |
---|---|
Rhan o | wyneb y Ddaear, y Ddaear |
Dechreuwyd | Mileniwm 21. CC |
Yn cynnwys | Affrica, Ewrasia, Asia, Afro-Asia |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Uwch-gyfandir mwyaf y byd yw Affrica-Ewrasia. Mae'n cynnwys tri chyfandir, sef Affrica, Asia ac Ewrop (ystyrir y ddau olaf yn eu tro yn un cyfandir mawr gan rai daearyddwyr, sef Ewrasia). Enw arall ar Affrica-Ewrasia a ddefnyddir yn aml, yn enwedig mewn cyd-destunau hanesyddol a diwylliannol, yw "Yr Hen Fyd", mewn cyferbyniaeth â'r Amerig, sef "Y Byd Newydd". Y rheswm am hynny yw bod hanes y ddynolryw yn cychwyn yn yr Hen Fyd, yn nyffrynnoedd Dwyrain Affrica.