Anialwch yr Atacama
Math | anialwch, WWF ecoregion |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Pacific desert |
Gwlad | Tsile |
Arwynebedd | 105,000 km² |
Uwch y môr | 2,657 metr |
Yn ffinio gyda | Puna |
Cyfesurynnau | 24.5°S 69.25°W |
Llwyfandir yn Ne America yw Anialwch yr Atacama. Mae'n cwmpasu stribed 1,000 km ar hyd arfordir y môr Tawel ag arfordir gorllewinol mynyddoedd yr Andes. Hwn yw'r anialwch di-begynnol sychaf yn y byd.[1][2][3][4] Yn ôl amcangyfrifon, mae Anialwch yr Atacama yn 105,000 km sgwâr (41,000 millitir sgwâr)[5] neu os ychwanegir llethrau hesb isaf yr Andes, 128,000 km sgwâr (49,000 milltir sgwâr).[6] Mae'r rhan fwyaf o'r anialwch yn cynnwys tir caregog, llynnoedd halen (salares), tywod, a lafa ffelsitaidd sy'n llifo tuag at yr Andes.
Yn ddaearyddol, gellir egluro sychder yr Atacama gan ei fod yn cael ei leoli rhwng dau o gadwynni mynyddoedd: yr Andes â Chadwyn Arfordirol Tsile o uchder digonol i atal llorfudo lleithder o naill ai'r Môr Tawel neu'r Iwerydd, cysgod glaw dwy-ochrog.[7]
Lleoliad
[golygu | golygu cod]Yn ôl y World Wide Fund for Nature, mae eco-ranbarth Anialwch yr Atacama'n meddiannu stribed parhaus o dir bron i 1,600 km o hyd ar hyd arfordir cul traean ogleddol Tsile, o Arica (18°24' De) tua'r de yn agos at La Serena (29°55' De).[8] Ystyria'r National Geographic Society yr ardal arfordirol yn ne Periw hefyd i fod yn rhan o Anialwch yr Atacama [9][10] yn o gystal â anialychau i'r de o Ranbarth yr Ica (Ica Region) ym Mheriw.
Mae Periw yn ei ffinio yn y gogledd, ac eco-ranbarth Tsile Matorral yn ei ffinio i'r de. I'r dwyrain gorweddai eco-ranbarth sych 'puna' (llwyfandir uchel di-goed) yr Andes Ganolog sydd yn llai cras. Mae'r ardal sychach yma o'r eco-ranbarth wedi ei leoli i'r de o Afon Loa rhwng y Sierra Vicunas Mackenna a Cordillera Domeyko sy'n gyfochrog â'u gilydd. I'r gogledd o Loa yn mae'r Pampa del Tamarugal.
Prif nodded topograffig yr arfordir yma yw'r Clogwyni Arfordirol yng ngogledd Tsile i'r gorllewin o Gadwyn Arfordirol Tsile.[11] Mae geomorffoleg Anialwch yr Atacama wedi cael ei nodweddu fel mainc isel "yn debyg i deras dyrchafedig enfawr" gan Armijo et al.[12] Mae'r Iseldir Ganolradd (neu Dyffryn Canolog) yn ffurfio cyfres o fasnau endorhëig mewn llawer o'r anialwch i'r de o ledred 19°30' De. I'r gogledd o'r lledred hyn, gwagiai'r Iseldar Ganolradd i'r Môr Tawel.[13]
Hinsawdd
[golygu | golygu cod]Er mai bron diffyg unryw wlybaniaeth yw brif nodwedd Anialwch yr Atacama, gall eithriadau ddigwydd. Ym mis Gorffennaf 2011, fe dorrodd ffrynt oer eithafol o'r Antartig drwy'r cysgod glaw, gan ddod â 80 cm (31 mod) o eira ar y llwyfandir, gan greu anhwyster i breswylwyr ar draws y rhanbarth, yn enwedig ym Molifia, lle cafodd llawer o yrrwyr eu dal mewn drifftiau o eira. Cafodd nifer o aelodau'r gwasanaethau brys eu gorweithio oherwydd y pwysau anarferol ar alwadau i achub bywydau.[15]
Yn 2012, daeth gaeaf yr altiplano ("gwastadedd uchel" yn Sbaeneg) â llifogydd i San Pedro de Atacama.[16][17]
Ar Fawrth 25, 2015, effeithiodd glaw trwm ar y rhan ddeheuol o Anialwch yr Atacama.[18][19] O ganlyniad llifogydd, sbardunwyd lleidlifoedd a effeithiodd ar ddinasoedd Copiapo, Tierra Amarilla, Chanaral, a Diego de Almagro, gan ladd tros gant o bobl.
Sychder
[golygu | golygu cod]Mae Anialwch yr Atacama yn cael ei adnabod yn gyffredin fel y man sychaf di-begynnol yn y byd, yn arbennig o amgylch tref gwag Yungay dref[20] (yn Antofagasta Rhanbarth, Tsile).[21] Mae'r glawiad cyfartalog yn tua 15 mm (0.6 mod) y flwyddyn,[22] er bod rhai lleoliadau, megis Arica a Iquique, yn derbyn 1 i 3mm (0.04 i 0.12 modfedd) mewn blwyddyn.1 to 3 mm (0.039 to 0.118 mod).[23] Yn o gystal a hynny, mae rhai gorsafoedd tywydd yn yr Atacama lle does dim galw erioed wedi syrthio. Mae cyfnodau o hyd at bedair blynedd wedi cael eu cofrestru gyda dim glaw yn y rhanbarth ganolog, wedi ei amffinio gan ddinasoedd Antofagasta, Calama a Copiapó, yn Tsile. Mae tystiolaeth yn awgrymu efallai na chafwyd unryw lawiad sylweddol yn yr Atacama rhwng 1570 a 1971.
Gall Anialwch yr Atacama fod yr anialwch hynaf ar y ddaear, ac mae wedi profi eithafol gorsychder am o leiaf 3 miliwn o flynyddoedd, gan ei wneud yn y man cras mwyaf parhaus ar y ddaear. Mae hanes hir o sychder, yn codi'r posibilrwydd bod mwneiddiad dyddodedig, dan amodau priodol, yn gallu ffurfio mewn amgylcheddau cras, yn hytrach nac angen amodau llaith.[24] Mae ymchwil daearegol yn awgrymu mewn rhai rhannau o'r Atacama, fel yn Tsile'n bresennol, mae gorsychder wedi parhau am y 200 miliwn blwyddyn dweuthaf (ers y Oes y Triasig), yn cystadlu'n unig gyda Anialwch y Namib, Affrica ar gyfer y fath teitl.
Mae'r Atacama mor cras fel bod nifer o'r mynyddoedd yno'n uwch na 6,000 m (20,000 tr) yn hollol absennol o rewlifoedd. Dim ond y copaon uchaf (er enghraifft Ojos del Salado, Monte Pissis, a Llullaillaco) sydd gyda rhywfaint o eira parhaol.
Mae rhan deheuol yr anialwch, rhwng 25 a 27°De, wedi bod heb rhewlifoedd drwy gydol y Cwaternaidd (gan gynnwys yn ystod rhewlifiannau), er bod rhew parhaol yn ymestyn i lawr i uchder o 4,400 m (14,400 tr) ac yn barhaus uwch 5,600 m (18,400 tr). Mae astudiaethau gan grŵp o wyddonwyr Prydeinig wedi awgrymu bod rhai gwelyau afonydd wedi bod yn sych am 120,000 o flynyddoedd.[25] Fodd bynnag, mae rhai lleoliadau yn yr Atacama yn cael niwl morwrol a adwaenir yn lleol fel y camanchaca, yn darparu digon o leithder ar gyfer algâu, cenau hypolithig a hyd yn oed rhywfaint o'r cacti—y genws Copiapoa sydd yn nodedig ymhlith y rhain.
Yn ddaearyddol, gall egluro sychder yr Atacama gan ei fod wedi ei lleoli rhwng dau gadwyn mynyddig (yr Andes â Chadwyn Arfordirol Tsile) o uchder digonol i atal llorfudiad lleithder o naill ai'r Môr Tawel neu'r Iwerydd, cysgod glaw dwy-ochrog.
Cymhariaeth â Mawrth
[golygu | golygu cod]Mewn rhanbarth tua 100 km (60 mi) i'r de o Antofagasta, sef cyfartaledd 3,000 m (10,000 tr) o uchder, mae'r pridd wedi cael ei gymharu â bod o'r blaned Mawrth/ Mars. Oherwydd ei ymddangosiad arallfydol, mae'r Atacama wedi cael ei ddefnyddio fel lleoliad ar gyfer ffilmio golygfeydd o Fawrth, yn fwyaf nodedig yn y gyfres deledu Odyssey Space: Voyage to the Planets.
Yn 2003, cyhoeddwyd archwiliad gan dîm o ymchwilwyr yng nghylchgrawn Science lle aethynt i dyblygu'r profion a ddefnyddwyd gan lanwyr Mawrth Viking 1 a Viking 2 i ganged bywyd yno, a methant i ganfod unrhyw arwyddion bywyd ym mhridd Anialwch yr Atacama yn rhanbarth Yungay.[27] Gall y rhanbarth fod yn unigryw ar y Ddaear yn hyn o beth, ac mae'n cael ei ddefnyddio gan NASA i brofi offerynnau prawf ar gyfer teithiau'n y dyfodol i blaned Mawrth. Dyblygodd y tîm y profion Viking mewn amgylcheddau tebyg i Fawrth yma ar y Ddaear a gwelsant eu bod yn colli arwyddion o fywyd mewn samplau pridd o'r Gymoedd Sych Antarctig, Anialwch yr Atacama, Tsile a Pheriw, ac lleoliadau eraill. Fodd bynnag, yn 2014, adroddwyd ar ardal o gor-sychder newydd, María Elena De, a oedd yn llawer sychach na Yungay, ac felly, yn lleoliad gwell i ail-gynhyrchu amgylchedd tebyg i wyneb y blaned Mawrth.[28]
Yn 2008, canfu'r Phoenix Mars Lander percloradau/ perchlorates ar wyneb y blaned Mawrth ar yr un safle lle cafwyd dŵr yn ei ddarganfod yn gyntaf.[29] Caiff percloradau hefyd yn yr Atacama ac mae adneuon nitrad yn gysylltiedig nitrad adneuon wedi cynnwys organnau naturiol, gan arwain at ddyfalu bod arwyddion o fywyd ar blaned Mawrth ddim yn anghydnaws â percloradau. Mae'r Atacama hefyd yn cael ei ddefnyddio fel safle-profi gan NASA ar gyfer y Rhaglen Canfod Ogofau Daear-Mawrth.[30]
Fflora
[golygu | golygu cod]Er gwaethaf yr amodau daearyddol a hinsoddol yr anialwch, mae amrywiaeth gyfoethog o blanhigion wedi datblygu yno. Mae tros 500 o rywogaethau wedi cael eu nodi o fewn cyffiniau'r anialwch yma. Nodweddir y rhywogaethau hyn gan eu gallu rhyfeddol i addasu i amgylchedd ethanol.[31] Y rhywogaeth mwyaf cyffredin yw perlysiau a blodau megis teim, llareta, a glaswellt morfa (Distichlis spicata) a, lle mae lleithder yn ddigonol, coed fel y chañar (Geoffroea decorticans), coeden pimiento, ag algarrobo deiliog (Prosopis chilensis).
Y llareta yw un o'r rywogaethau coed mwyaf uchaf-dyfu'r byd. Ceir hyd iddo ar dir rhwng uchder 3,000 a 5,000m.Mae ei ffurf trwchus yn debyg i glustog 3 i 4 medr o drwch. Mae'n dwysáu ac yn cadw gwres y dydd i ymdopi gyda thymheredd isel y noson. Mae cyfradd twf y llareta yn ddiweddar wedi ei amcangyfrif i fod tua 1.5 cm y flwyddyn, sydd yn gwneud llawer o llaretas tros 3,000 o flynyddoedd oed. Mae'n cynhyrchu resin gwerthfawr iawn. Ar un pryd roedd y diwydiant mwyngloddio yn ei gynaeafu yn ddiwahân fel tanwydd, yn gwneud y planhigyn hwn sydd mewn perygl.
Mae'r anialwch hefyd yn gartref i gacti, suddlon, a phlanhigion eraill sy'n ffynnu mewn hinsawdd sych. Mae rhywogaethau cactws yma'n cynnwys y candelabro (Browningia candelaris) a cardon (Echinopsis atacamensis), a gall gyrraedd uchder o 7 m (23 tr) a diamedr o 70 cm (28 mod).
Mae BlodynYr Atacama (sbaeneg: desierto florido) i'w weld o fis Medi i fis Tachwedd mewn blynddoedd pan fu digonedd o wlybaniaeth, fel a digwyddodd yn 2015.
Ffawna
[golygu | golygu cod]Mae hinsawdd Anialwch yr Atacama yn cyfyngu ar y nifer o anifeiliaid sy'n byw yn barhaol yn yr ecosystem eithafol. Mae rhai rhannau o'r anialwch mor sych, fel nad oes unrhyw blanhigion neu anifeiliaid yn medru goroesi yno. Y tu allan i'r ardaloedd eithafol hyn, mae sioncyn-y-gwair/ceiliogod rhedyn tywod-liw'n ymdoddi â cherrig mân ar lawr yr anialwch, ac mae child â'u larfa yn darparu ffynhonnell werthfawr o fwyd yn y lomas (bryniau). Mae cacynnod yr anialwch a gloÿnnod byw i'w gweld yn ystod y tymor llaith a chynnes, yn enwedig ar y lomas, yma hefyd ceir sgorpionau coch.
Mae amgylchedd unigryw yn cael ei ddarparu gan rai lomas, lle mae niwl o'r môr yn darparu digon o leithder ar gyfer planhigion tymhorol ac ychydig o rywogaethau o anifeiliaid. Yn rhyfeddol iawn dim ond ychydig o rywogaethau o ymlusgiaid sydd yn byw yn yr anialwch, a hyd yn oed llai rywogaethau o amffibiaid.Mae'r Chaunus atacamensis, neu broga Vallenar/Atacama, yn byw ar y lomas, ble mae'n nhw'n dodwy wyau mewn pyllau parhaol neu nentydd. Mae Igwanaod a madfallod lafa yn byw yn rhannau o'r anialwch, tra bod madfallod gwastadedd halen, y Liolaemus, yn byw yn yr ardaloedd sych sy'n ffinio â'r cefnfor.[32] Mae un rhywogaeth, Liolaemus fabiani, yn endemig i Salar de Atacama, Gwastadedd Halen yr Atacama.[33]
Adar ,yn ôl pob tebyg yw'r grŵp mwyaf o anifeiliaid yn yr Atacama. Mae pengwiniaid Humboldt yn byw drwy gydol y flwyddyn ar hyd yr arfordir, yn nythu mewn clogwyni anialwch sy'n edrych allan dros y môr. Ar wastadeddau halen y ger y môr Tawel ac yn fewndirol, mae Adar y Fflam yr Andes/ Andes fflamingos yn heidio i fwyta algae. Mae adar eraill (gan gynnwys rhywogaethau o adar y si/ hummingbirds ac adar y to) yn ymweld â'r lomas yn dymhorol i fwydo ar bryfed, neithdar, hadau, a blodau. Gall y lomas helpu i gynnal nifer o rywogaethau dan fygythiad, megis y Seren goed Chile.
Oherwydd sychder eithafol yr anialwch, dim ond ychydig o rywogaethau o famaliaid sydd wedi medru addasu'n arbennig i fyw yn yr Atacama, megis Llygoden Deil-glustiog Darwin. Mewn ardaloedd llai sych o'r anialwch fe geir LLwynog Llwyd De America a'r viscacha (perthynas y chinchilla). Mae anifeiliaid mwy, fel guanacos a vicuñas, yn pori mewn ardaloedd lle mae glaswellt yn tyfu, yn bennaf oherwydd am ei fod yn cael ei ddyfrhau'n dymhorol gan eira sydd wedi toddi. Mae anifeiliaid mwy megis y Vicuñas angen i aros yn agos i gyflenwad cyson o ddŵr, tra gall y guanacos grwydro i mwy i mewn i ardaloedd sychach a goroesi yn hirach heb ddŵr croyw. Mae morloi a llewod môr yn aml yn ymgasglu ar hyd yr arfordir.
Presenoldeb dynion
[golygu | golygu cod]Mae poblogaeth yr Atacama yn wasgaredig iawn, gyda'r rhan fwyaf o drefi wedi'u lleoli ar hyd arfordir y Môr Tawel.[34] Yn yr ardaloedd mewnol, mae gwerddonau a rhai cymoedd wedi cael eu poblogi ers miloedd o flynyddoedd a lle roedd lleoliad cymdeithasau mwyaf datblygedig Cyn-Columbiaidd yn Tsile.
Diwylliant Chinchorro
[golygu | golygu cod]Datblygodd diwylliant y Chinchorro yn ardal Anialwch yr Atacama o 7,000 i 1,500 CC. Roedd rhain yn gymuned o bysgotwyr sefydlog yn byw yn bennaf mewn ardaloedd arfordirol. Mae eu presenoldeb heddiw yw canfod yn nhrefi Ilo, yn ne Periw, i Antofagasta yng ngogledd Tsile. Roedd presenoldeb o ddŵr croyw yn rhanbarth yr arfordir yn hwyluso anheddiad dynol yn yr ardaloedd hyn. Roedd y Chinchorro yn enwog am eu mymeiddio ac arferion angladdol.[35]
Yn ddiweddarach, profodd gwerddonau'r Atacama fawr ddim tŵf mewn poblogaeth na datblygiadau trefol. Yn ystod yr 20g mae gwrthdaro dros adnoddau dŵr yn y dinasoedd arfordirol a'r diwydiant mwyngloddio.
Mae tref San Pedro de Atacama, tua 2,400 metr (8,000 tr) o uchder, fel llawer o drefi bach yr ardal. Cyn ymerodraeth yr Inca a chyn dyfodiad y Sbaenwyr, llwyth yr Atacameño oedd yn byw o fewn y sychdir diffaith yma.llwyth. Mae'nt yn nodedeig am adeiladu eu trefi caerog o'r emw pucarás, mae un o'r rhain wedi ei leoli ychydig gilomedrau o San Pedro de Atacama. Adeiladwyd eglwys y dref gan y Sbaenwyr yn 1577.
Sefydlodd dinasoedd yr arfordir yn wreiddiol yn yr 16eg ganrif, yr 17eg, a'r 18eg yn ystod amser yr Ymerodraeth Sbaeneg pan y daethant i'r amlwg fel porthladdoedd llongau arian a gynhyrchwyd yn Potosí a chanolfannau mwyngloddio eraill. Yn ystod y 19eg ganrif daeth yr anialwch o dan reolaeth Bolifia, Tsile, ac Pheriw. Gyda'r darganfyddiad o adneuon sodiwm nitrad ac fel canlyniad o ffiniau gwleidyddol aneglur yn yr ardal, daeth gwrthdaro a arweiniodd at y Rhyfel y Môr Tawel. Atododd Tsile y rhan fwyaf o'r anialwch, a datblygodd y dinasoedd arfordirol i fod yn borthladdoedd rhyngwladol, gan gynnal llawer o Tsile weithwyr Tsile a ymfudodd yno.[36][37][38]
Gyda'r twf o guano a solpitar yn y 19eg ganrif tyfodd y boblogaeth yn fawr iawn, yn bennaf o ganlyniad i fewnfudo o ganol Tsile. Yn yr 20g bu dirywiad yn niwydiant y nitrad ac ar yr un pryd daeth boblogaeth yr anialwch a oedd yn rhan helaeth yn ddynion yn fwyfwy o broblem i wladwriaeth Tsile. Daeth gwrthdaro rhwng glowyr a chwmnïau mwyngloddio, a lledaennodd protestiadau ledled y rhanbarth.
Trefi mwyngloddio nitrad gwag.
[golygu | golygu cod]Mae gan yr anialwch ddyddodion cyfoethog o gopr a myna eraill a chyflenwad maya'r byd o mwyaf o sodiwm nitrad a arferid gael ei gloddio ar raddfa fawr hyd at y 1940au cynnar. Dechreuodd Anghydfod Ffin yr Atacama tros yr adnoddau hyn rhwng Tsile a Bolifia yn y 19g, a dilynnodd hyn at Ryfel y Môr Tawel.[angen ffynhonnell]
Mae'r anialwch yn frith o tua 170 o drefi mwyngloddio nitrad (neu "solpitar") gwag, bron pob un ohonynt wedi eu cau i lawr y degawdau ar ôl i nitrad synthetig gael ei ddyfeisio'n yr Almaen ar droad yr 20g (gweler broses Haber).[angen ffynhonnell] Mae'r cyn- dress hyn yn cynnwys Chacabuco, Humberstone, Santa Laura, Pedro de Valdivia, Puelma, María Elena, a Oficina Anita.[angen ffynhonnell]
Mae Anialwch yr Atacama yn gyfoethog mewn adnoddau mwynol metelig fel copr, aur, arian, a haearn yn ogystal â mwynau anfetelaidd gan gynnwys dyddodion pwysig o boron, lithiwm, sodiwm nitrad a halwynau photasiwm. Mae Salar de Atacama yn le lle mae bischofite yn cael ei dynnu.[angen ffynhonnell] Mae'r adnoddau hyn yn cael eu manteisio ar gan wahanol gwmnïau mwyngloddio fel Codelco, Lomas Bayas, Mantos Blancos, a Soquimich.[39][40]
Arsyllfeydd seryddol
[golygu | golygu cod]Oherwydd ei uchder uchel, bron nad ydy gorchudd cwmwl yn bodoli, gydag aer sych, a diffyg llygredd golau ac ymyrraeth radio gan ddinasoedd a threfi poblog, mae'r anialwch yma'n un o'r llefydd gorau yn y byd i gynnal arsylwadau seryddol.[42][43] Mae Arsyllfa Deheuol Ewropeaidd yn gweithredu dau brif arsyllfa'n yr Atacama:
- Arsyllfa La Silla
- Arsyllfa Paranal, sy'n cynnwys y Telesgop Mawr Iawn
Mae telesgop radio seryddiaeth, a elwir yn yr Atacama Large Millimeter Array (ALMA - sef y Sbaenag am 'enaid') a adeiladwyd gan Ewrop, Japan, yr Unol Daleithiau, Canada a Tsile yn y Arsyllfa Llano de Chajnantor a agorwyd yn swyddogol ar y 3ydd o Hydref 2011.[44] Mae nifer o brosiectau radio -seryddiaeth, megis y CBI(Lluniwr Cefndirol Cosmig), y ASTE (Arbrawf Telesgop Is-milimedr Atacama) ac yn y ACT (Telesgop Cosmoleg Tsile), ymhlith eraill, wedi bod yn gweithredu yn ardal y Chajnantor ers 1999.
Defnyddiau eraill
[golygu | golygu cod]Chwaraeon
[golygu | golygu cod]Mae Anialwch Atacama yn boblogaidd gyda selogion chwaraeon pob tirwedd "all-terrain". Mae amryw o bencampwriaethau wedi eu cynnal yma, gan gynnwys Rali yr Is Atacama, Rali Is Tsile, Rali Patagonia-Atacama ac argraffiadau diweddar Rali Dakar. Trefnwyd y rali hon gan yr A. S. O. (Amaury Sports Organisation) ac fe'i gynhaliwyd yn 2009, 2010, 2011, a 2012. Mae twyni'r anialwch yn ddelfrydol ar gyfer rasys rali a leolir ar gyrion dinas Copiapó.[45] Dechreuodd Rali 15-Diwrnod Dakar 2013 ar y 5ed o Ionawr yn Lima, Periw, a thrwy Tsile, yr Ariannin ac yn ôl i Tsile a gorffen yn Santiago.[46] Mae ymwelwyr hefyd ddefnyddio twyni tywod Anialwch yr Atacama ar gyfer tywod-fyrddio/ Sandboarding (sbaeneg: duna).
Mae ras droed pythons o hyd o'r enw Croesi'r Atacama'n ras lle mae'r cystadleuwyr yn gorfod croesi ar draws gwahanol dirweddau yr Atacama.[47]
Mae digwyddiad o'r enw Marathon y Llosgfynydd yn cymryd lle ger llosgfynydd Lascar yn Anialwch y Atacama.[48]
Radio Ceir Solar
[golygu | golygu cod]Arddangoswyd deunaw o geir egni solar o flaen y palas arlywyddol (y La Moneda) yn Santiago ym mis Tachwedd 2012.[49] Yna aeth y ceir i rasio drwy'r anialwch (1,300 cilomedr) rhwng 15ed a19ed o Dachwedd 2012.[50]
Twristiaeth
[golygu | golygu cod]Mae'r rhan fwyaf o bobl sy'n mynd i fynd ar daith i'r anialwch yn aros yn nhref San Pedro de Atacama.[51] Mae Anialwch yr Atacama yn un o'r tri lleoliad twristiaeth uchaf yn Tsile. Fe gomisiynwyd gwesty'r ESO (Arsyllfa Deheuol Ewropeaidd) yn arbennig ar gyfer seryddwyr.[52]
Giser El Tatio
[golygu | golygu cod]Mae geiserau 80 km o dref San Pedro de Atacama. Mae tua 80 geiserau o fewn dyffryn. Mae'nt yn agosach at dref Chiu Chiu.[53]
Baddonau Poeth Puritama
[golygu | golygu cod]Baddonau Poeth Puritama (Termos Banos de Puritama) yw pyllau dŵr poeta creigiog sydd yn 37 milltir o'r geiserau.[54]
Oriel
[golygu | golygu cod]-
Ffurfiannau eira yng ngolau'r lleuad
-
Valle de la Luna, ger San Pedro de Atacama
-
Laguna Verde
-
Dyffryn yn Atacama
-
Llwyfandir Chajnantor
-
Arsyllfa Paranal
-
Anialwch blodeo
-
Lamaod
-
Dyffryn marwolaeth
-
Eglwys Machuca
Ardaloedd gwarchodedig
[golygu | golygu cod]- Parc Cenedlaethol Pan de Azúcar
- Gwarchodfa Cenedlaethol Pampa del Tamarugal
- Gwarchodfa Genedlaethol La Chimba
Chwedlau
[golygu | golygu cod]- Alicanto
- Cawr Atacama
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Vesilind, Priit J. (Awst 2003). "The Driest Place on Earth". National Geographic Magazine. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2007-12-18. Cyrchwyd 2 Ebrill 2013.
- ↑ "Even the Driest Place on Earth Has Water". Extreme Science. Cyrchwyd 2 Ebrill 2013.
- ↑ Mckay, Christopher P. (May–June 2002). "Two dry for life: the Atacama Desert and Mars". AdAstra: 30–33. http://quest.nasa.gov/challenges/marsanalog/egypt/AtacamaAdAstra.pdf. Adalwyd 2017-07-26.
- ↑ Jonathan Amos (8 December 2005). "Chile desert's super-dry history". BBC News. Cyrchwyd 29 December 2009.
- ↑ Wright, John W., gol. (2006). The New York Times Almanac (arg. 2007). New York: Penguin Books. t. 456. ISBN 978-0-14-303820-7.
- ↑ Rundel, P. W.; Villagra, P. E.; et al. (2007). "Arid and Semi-Arid Ecosystems". In Veblen, Thomas T.; Young, Kenneth R.; Orme, Anthony R. (gol.). Physical Geography of South America. Oxford University Press. tt. 158–183.
- ↑ Veblen, Thomas T., gol. (2007). The Physical Geography of South America. Oxford University Press. t. 160. ISBN 978-0-19-531341-3.
- ↑ "Atacama desert". Terrestrial Ecoregions. World Wildlife Fund. Cyrchwyd 11 Mawrth 2008.
- ↑ Handwerk, Brian (23 Hydref 2006). "Viking Mission Mai Have Missed Mars Life, Study Finds". National Geographic News. National Geographic Society. Cyrchwyd 3 Ebrill 2013.
- ↑ Minard, Anne (25 Mehefin 2007). "Giant Penguins Once Roamed Peru, Fossils Show". National Geographic News. National Geographic Society. Cyrchwyd 3 Ebrill 2013.
- ↑ Quezada, Jorge; Cerda, José Luis; Jensen, Arturo (2010). "Efectos de la tectónica y el clima en la configuración morfológica del relieve costero del norte de Chile" (yn Spanish). Andean Geology 37 (1): 78–109. doi:10.4067/s0718-71062010000100004. http://www.scielo.cl/scielo.php?script=sci_arttext&pid=S0718-71062010000100004. Adalwyd 5 Rhagfyr 2015.
- ↑ Armijo, Rolando; Lacassin, Robin; Coudurier-Curveur, Aurélie; Carrizo, Daniel (2015). "Coupled tectonic evolution of Andean orogeny and global climate". Earth-Science Reviews 143: 1–35. doi:10.1016/j.earscirev.2015.01.005.
- ↑ Evenstar, Laura; Mather, Anna; Stuart, Finlay; Cooper, Frances; Sparks, Steve (May 2014). Geomorphic surfaces and supergene enrichment in Northern Chile. Vienna: EGU General Assembly 2014, held 27 April - 2 Mai 2014.
- ↑ "Snow Comes to the Atacama Desert". ESO. Cyrchwyd 3 April 2013.
- ↑ "Hyper-Arid Atacama Desert Hit By Snow". BBC News. 7 Gorffennaf 2011. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 8 Gorffennaf 2011. Cyrchwyd 7 Gorffennaf 2011. Unknown parameter
|deadurl=
ignored (help) - ↑ "Inundación en San Pedro de Atacama deja 800 afectados y 13 turistas evacuados". El Mostrador (yn Spanish). 11 Chwefror 2012. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2013-05-31. Cyrchwyd 3 December 2012.CS1 maint: unrecognized language (link)
- ↑ "Tourism in San Pedro de Atacama restricted by floods". This is Chile. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2013-12-02. Cyrchwyd 3 December 2012.
- ↑ "Atacama Desert Blooms Pink After Historic Rainfall (Photos)". LiveScience.com.
- ↑ Erin Blakemore. "The World's Driest Desert Is in Breathtaking Bloom". Smithsonian (magazine).
- ↑ "Yungay - the driest place in the world | Wondermondo". www.wondermondo.com (yn Saesneg). Cyrchwyd 2017-05-06.
- ↑ Boehm, Richard G.; Armstrong, David G.; Hunkins, Francis P.; Reinhartz, Dennis; Lobrecht, Merry (2005). The World and its People (arg. Teacher's wraparound). New York: Glencoe/McGraw-Hill. t. 276. ISBN 978-0-07-860977-0.
- ↑ "The desert biome". University of California Museum of Paleontology.
- ↑ "Rare snow in the Atacama Desert: Image of the Day". NASA.
- ↑ Jonathan D. A. Clarke (2006). "Antiquity of aridity in the Chilean Atacama Desert". Geomorphology 73: 101–114. doi:10.1016/j.geomorph.2005.06.008. Archifwyd o y gwreiddiol ar 2015-09-05. https://web.archive.org/web/20150905182608/http://quest.nasa.gov/projects/spacewardbound/docs/sdarticle.pdf.
- ↑ "Chile desert's super-dry history". BBC News. 8 December 2005. Cyrchwyd 25 April 2010.
- ↑ "A trip to Mars". www.eso.org. Cyrchwyd 2 Mai 2017.
- ↑ azua-bustos, A. (24 Rhagfyr 2014). "Discovery and microbial content of the driest site of the hyperarid Atacama Desert, Chile.". Environmental Microbiology Reports.
- ↑ Thompson, Andrea (5 Awst 2008). "Scientists Set Record Straight on Martian Salt Find". Space.com. Cyrchwyd 6 Awst 2008.
- ↑ Wynne, J. J.; Cabrol, N. A.; Chong Diaz, G.; Grin, G. A.; Jhabvala, M. D.; Moersch, J. E.; Titus, T. N.. Earth–Mars Cave Detection Program Phase 2 – 2008 Atacama Desert Expedition (Adroddiad). Archifwyd o y gwreiddiol ar 2019-09-01. https://web.archive.org/web/20190901184720/https://www.explorers.org/flag_reports/Flag_52_-_J_Judson_Wynne_Flag_Report.pdf. Adalwyd 3 April 2013.
- ↑ Thos. Morong. (12 Chwefror 1891). "The Flora of the Desert of Atacama". The Bulletin of the Torrey Botanical Club 18 (2): 39–48. doi:10.2307/2475523. http://www.jstor.org/stable/2475523?seq=3.
- ↑ Monique Bos. "Animals that live in the Atacama Desert". Paw Nation. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2014-01-02. Cyrchwyd 2017-07-26.
- ↑ Claudio M. Escobar; et al. (March 2003). "Chemical Composition of Precloacal Secretions of Two Liolaemus fabiani Populations: Are They Different?". Diary of Chemical Ecology 29 (3): 629. doi:10.1023/A:1022858919037. http://link.springer.com/article/10.1023%2FA%3A1022858919037.
- ↑ South America physical map
- ↑ Sanz, Nuria; Arriaza, Bernardo T.; Standen, Vivien G., The Chinchorro Culture: A Comparative Perspective.
- ↑ Holsti, K.J. (1997). The State, War, and the State of War. Cambridge University Press. t. 151. ISBN 978-0-521-57790-8.
- ↑ Clayton, Lawrence A. (1984). The Bolivarian Nations. The Forum Press. t. 26. ISBN 978-0-88273-603-7.
- ↑ St. John, Robert Bruce (1994). The Bolivia-Chile-Peru dispute in the Atacama Desert (Adroddiad). International Boundaries Research Unit. https://books.google.com/books?id=KPORDM85EsIC&pg=PA1&dq=Atacama+desert+colonial+period&hl=en&sa=X&ei=MSG8UJOiG4Wu8ASPzoCoCQ&ved=0CCwQ6AEwAA#v=onepage&q=Atacama%20desert%20colonial%20period&f=false.
- ↑ "Exploring the Atacama". yes. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2013-01-17. Cyrchwyd 2012-12-03.
- ↑ Kogel, Jessica Elzea (2006). Kogel, Jessica Elzea; Trivedi, Nikhil; Barker, James; Krukowski, Stanley (gol.). Industrial Minerals & Rocks: Commodities, Markets, and Uses (arg. 7th). Littleton, Colo.: Society for Mining, Metallurgy, and Exploration. t. 605. ISBN 978-0-87335-233-8.
- ↑ "ALMA Upgrade to Image the Event Horizons of Supermassive Black Holes". ESO Announcement. Cyrchwyd 10 Mehefin 2014.Check date values in:
|access-date=
(help) - ↑ "Top 10 Atacama Desert Facts That Every Tourist Must Know". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2017-06-11. Cyrchwyd 19 Tachwedd 2015.
- ↑ Bustos, R.; Rubio, M. et al. (2014). "Parque Astronómico de Atacama: An Ideal Site for Millimeter, Submillimeter, and Mid-Infrared Astronomy". Publications of the Astronomical Society of the Pacific 126 (946): 1126. arXiv:1410.2451. Bibcode 2014PASP..126.1126B. doi:10.1086/679330.
- ↑ Toll, Rosser (3 Hydref 2011). "In Chile desert, huge telescope begins galaxy probe". AFP. Cyrchwyd 3 Hydref 2011.
- ↑ "Ruíz-Tagle ve difícil que Chile no esté en un nuevo Dakar". yes. This is Chile. 21 Tachwedd 2012. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-11-17. Cyrchwyd 3 December 2012.
- ↑ "Dakar Rally event 2013 to culminate in Chilean capital". yes. This is Chile. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2013-10-29. Cyrchwyd 3 December 2012.
- ↑ "Atacama Crossing". yes. 4 deserts. Cyrchwyd 3 December 2012.
- ↑ Volcano Marathon Volcanomarathon.com.
- ↑ "Nueva generación de autos solares son presentados en Chile". La Nacion. 7 Tachwedd 2012. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-11-17. Cyrchwyd 3 December 2012.Check date values in:
|access-date=, |date=
(help) - ↑ "Los autos que competirán en la súper carrera solar de Atacama". La Nacion. 8 Tachwedd 2012. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-11-17. Cyrchwyd 3 Rhagfyr 2012.Check date values in:
|access-date=, |date=
(help) - ↑ "Guide to Atacama Desert". Conde Nast Traveller. Conde Nast. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2013-04-05. Cyrchwyd 3 April 2013.
- ↑ Vickers, Graham (2005). 21st Century Hotel. London: Laurence King. t. 122. ISBN 978-1-85669-401-8.
- ↑ Erfurt-Cooper, Patricia; Cooper, Malcolm, gol. (2010). Volcano and Geothermal Tourism: Sustainable Geo-resources for Leisure and Recreation. London: Earthscan. ISBN 978-1-84407-870-7.
- ↑ Mroue, Haas; Schreck, Kristina; Luongo, Michael (2005). Frommer's Argentina & Chile (arg. 3rd). Hoboken, N.J. [u.a.]: Wiley. t. 308. ISBN 978-0-7645-8439-8.
Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- "Mars-like Soils in the Atacama Desert, Chile, and the Dry Limit of Microbial Life" Archifwyd 2003-11-19 yn y Peiriant Wayback, datganiad i'r wasg NASA
- "Roving robot finds desert life", erthygl yn Nature
- "A Lady in the Atacama Desert, o'r blog trafeulio A Lady in London
- Detailed article issued by the Geological Society of America ar hanes sychder Anialwch yr Atacama
- Atacama Desert Photo Gallery, lluniau o nifer o wahanol dirweddau, fflora a ffawna Anialwch yr Atacama.