Baner Belîs
Mabwysiadwyd baner Belîs (baner Belize) ar 21 Medi 1981 yn dilyn annibyniaeth y wlad yng Nghanolbarth America o'r Deyrnas Unedig. Cyn annibyniaeth adnabwyd y wlad fel Hondwras Brydeinig. Mae'n cael ei ffinio i'r gorllewin gan wlad Gwatemala sy'n hawlio hanner tiriogaeth ddeheuol Belîs.
Dyluniad
[golygu | golygu cod]Mae baner Belîs yn las, gyda dwy stribed llorweddol coch ar y pennau a disg gwyn yn y canol. Lleolir yr arwyddlun genedlaethol o fewn y ddisg gwyn. Mae'r faner yn ddatblygiad o'r faner Honduras Prydeinig flaenorol (enw'r enw Belice ar y blaen), a sefydlwyd yn 1950 pan enillodd Honduras Prydain peth hunanlywodraeth oddi ar Brydain. Ychwanegwyd y ddau stribedi coch i'r dyluniad gwreiddiol yn dilyn yr olaf.
Mae arfbais Belîs yn cynnwys delwedd o ddau ddyn, un mestizo ac un o dras Affricanaidd yn cefnogi'r darian. Dyma unig faner i gynnwys delwedd o ddau ddyn arni, er, ceir baneri eraill ag un dyn arni, megis baneri Malta, threfedigaethau Brydeining Montserrat a Baner Ynysoedd Virgin Prydain a Polynesia Ffrengig hefyd â dynion neu fynywod arnynt.[1] Ceir y geiriau Lladin, Sub Umbra Floreo, sef "Ffynnaf o dan y Cysgod".
Baner Cyfleustra
[golygu | golygu cod]Caiff y faner ei chwifio fel baner cyfleustra gan longau ar draws y byd.
Baneri Eraill
[golygu | golygu cod]-
Baner y Belize United Democratic Party
-
Baner Belize City, cyn-prifddinas y wlad
-
Baner Belize People's United Party
Hen Faneri
[golygu | golygu cod]-
Baner Hondwras Brydeinig, 1870–1919
-
Baner morol Hondwras Brydeinig, 1870–1919
-
Baner Honduras Brydeinig, 1919–1981
-
Baner morol Hondwras Brydeinig 1919–1981
-
Ystondard Rhaglaw Hondwras Brydeinig
-
Baner answyddogol Balize 1950–1981.
Dyma oedd sail y faner gyfredol
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- Baner Belîs Archifwyd 2012-08-12 yn y Peiriant Wayback
- Baner Belîs
- Vexilla-Mundi
|