David Soul
David Soul | |
---|---|
Ffugenw | David Soul |
Ganwyd | David Richard Solberg 28 Awst 1943 Chicago |
Bu farw | 4 Ionawr 2024 Llundain |
Dinasyddiaeth | UDA |
Alma mater | |
Galwedigaeth | canwr, actor teledu, actor ffilm, cyfarwyddwr teledu, actor llwyfan, canwr-gyfansoddwr, cyfarwyddwr, actor |
Adnabyddus am | Starsky & Hutch |
Arddull | cerddoriaeth boblogaidd |
Cartre'r teulu | Norwy |
Priod | Unknown, Karen Carlson, Patti Carnel, Julia Nickson-Soul, Unknown |
Partner | Alexa Hamilton |
Plant | China Soul |
Gwefan | http://www.davidsoul.com |
Roedd David Soul (ganwyd David Richard Solberg ; 28 Awst 1943 – 4 Ionawr 2024) yn ganwr ac actor o'r Unol Daleithiau. Roedd yn fwyaf adnabyddus am bortreadu’r Ditectif Kenneth “Hutch” Hutchinson yn y gyfres deledu Americanaidd Starsky & Hutch o 1975 i 1979.
Roedd ei rolau nodedig eraill yn cynnwys Joshua yn y gyfres Here Come the Brides o 1968 i 1970 a'r prif ran yn y ffilm deledu 1979 Salem's Lot. Rôl ffilm nodedig arall oedd John Davis yn y ffilm Magnum Force (1973) gyda Clint Eastwood.
Cafodd lwyddiant hefyd fel canwr, gan gael sengl rhif un ar yr UD Billboard Hot 100 gyda "Don't Give Up on Us". Cyrhaeddodd y sengl rhif un yn y DU a Chanada hefyd. Cafodd Soul sengl rhif un ychwanegol ar Siart Senglau'r DU gyda "Silver Lady" (1977).[1] Yn y 1990au symudodd ef i'r Deyrnas Unedig a chael llwyddiant o'r newydd ar lwyfan y West End. Gwnaeth ymddangosiadau cameo hefyd mewn sioeau teledu Prydeinig, gan gynnwys Little Britain, Holby City a Lewis.[2][3]
Cafodd Soul ei eni yn Chicago, Illinois, Unol Daleithiau America,[4] ac roedd o dras Norwyaidd. Roedd ei fam, June Joanne (Nelson), yn athrawes ac roedd ei dad, Dr. Richard W. Solberg, yn weinidog Lutheraidd ac yn ysgolhaig.[5][6] Yr oedd dau daid Soul yn efengylwyr.[7] Symudodd y teulu yn aml yn ystod ieuenctid Soul a daeth yn rhugl yn Almaeneg a Sbaeneg.[5] Aeth ei frawd Daniel yn weinidog Lutheraidd.[5]
Priododd bum gwaith. Priododd ei bedwerydd gwraig, yr actores Julia Nickson ym 1987. Roedd gan y cwpl ferch, China Soul, sy'n gantores/cyfansoddwr caneuon. Priododd ei bumed gwraig, Helen Snell yn 2010 a symudodd i fyw yn Llundain.[8]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Roberts, David (2006). British Hit Singles & Albums (arg. 19th). London: Guinness World Records Limited. tt. 344–5. ISBN 1-904994-10-5.
- ↑ Williams, Zoe (2024-01-05). "David Soul: the British-American star who made crime-fighting cool". The Guardian (yn Saesneg). ISSN 0261-3077. Cyrchwyd 6 Ionawr 2024.
- ↑ Hayward, Anthony (2024-01-05). "David Soul obituary". The Guardian (yn Saesneg). ISSN 0261-3077. Cyrchwyd 6 Ionawr 2024.
- ↑ Larkin, Colin, gol. (1992). The Guinness Encyclopedia of Popular Music (yn Saesneg) (arg. First). Guinness Publishing. t. 2328. ISBN 0-85112-939-0.
- ↑ 5.0 5.1 5.2 "David Soul Biography (1943-)". Filmreference.com. 28 Awst 1943. Cyrchwyd 16 Ionawr 2012.
- ↑ "Lutheran Pastor, Advisor, Historian, Educator, Richard Solberg, Dies". Wfn.org.
- ↑ "The Souls' Dark Night". People.com. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 4 Mawrth 2016. Cyrchwyd 11 Hydref 2021.
- ↑ "Fame Magazine Medi 2010". Famemagazine.co. uk. 10 Medi 2010. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2011-10-04. Cyrchwyd 30 Hydref 2011.
- Genedigaethau 1943
- Marwolaethau 2024
- Actorion ffilm yr 20fed ganrif o'r Unol Daleithiau
- Actorion ffilm yr 21ain ganrif o'r Unol Daleithiau
- Actorion ffilm Saesneg o'r Unol Daleithiau
- Actorion teledu'r 20fed ganrif o'r Unol Daleithiau
- Actorion teledu'r 21ain ganrif o'r Unol Daleithiau
- Actorion teledu Saesneg o'r Unol Daleithiau
- Cantorion yr 20fed ganrif o'r Unol Daleithiau
- Cantorion Saesneg o'r Unol Daleithiau
- Cyfarwyddwyr teledu o'r Unol Daleithiau
- Pobl a aned yn Chicago
- Pobl fu farw yn Llundain
- Pobl o'r Unol Daleithiau o dras Norwyaidd
- Ymfudwyr o'r Unol Daleithiau i'r Deyrnas Unedig