Ieithoedd Berber
Enghraifft o'r canlynol | teulu ieithyddol |
---|---|
Math | Ieithoedd Affro-Asiaidd |
Rhan o | ieithoedd di-diriogaethol Ffrainc |
Yn cynnwys | Northern Berber, Western Berber, ieithoedd Twareg, Eastern Berber, Numidian, Guanche |
Nifer y siaradwyr | |
cod ISO 639-2 | ber |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Defnyddir y term ieithoedd Berberaidd am nifer o ieithoedd yn perthyn i deulu yr ieithoedd Affro-Asiaidd, a siaredir yn bennaf yn y Maghreb, gogledd Affrica gan y Berberiaid.
Ar un adeg ieithoedd Berberaidd yn cael ei siarad o Foroco yn y gorllewin i Ddiffeithwch Libia yn y dwyrain. Ildiodd yr ieithoedd hyn dir yn raddol yn sgîl y concwest Arabaidd yn y 6g. Eu cadarnleodd erbyn heddiw yw Moroco a rhannau o Algeria. Ceir ychydig o siaradwyr Berbereg yng ngorllewin Tiwnisia yn ogystal. Mae rhai pobl yn dal i siarad tafodiaith Ferberaidd ynysig yn ngwerddon Siwa, gorllewin Yr Aifft.
Kabyle Kabyle (Taqbaylit) Atlas Tamazight Canol Atlas (Tamaziɣt) Shilha (Tacelḥit) Senhaja de Srair a Ghomara Zenati Riff (Tmaziɣt) Ayt Seghrouchen ac Ayt Warayn Shenwa Shawiya Mzab-Wargla, Zenati Dwyreiniol | Berber Gorllewinol Zenaga (Tuḍḍungiyya) Berber Dwyreiniol Siwi, Nafusi, Sokna, Ghadamès, Awjila Twareg Twareg (Tamasheq) |
Llên a diwylliant
[golygu | golygu cod]Am ganrifoedd roedd llenyddiaeth Ferberaidd yn llenyddiaeth lafar yn bennaf. Mae'n gyfoethog mewn chwedlau llên gwerin ac mae ganddi draddodiad barddol hynafol sy'n dal i flodeuo heddiw. Un o feirdd mwyaf nodedig yr iaith Ferberaidd yw'r Berber o Algeria, Si Muhand U M'hand (tua 1845 - 1905).