Neidio i'r cynnwys

Philip Vaughan

Oddi ar Wicipedia
Philip Vaughan
Ganwyd1757 Edit this on Wikidata
Cymru Edit this on Wikidata
Bu farw1824 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethdyfeisiwr Edit this on Wikidata
Pêl-feryn cyswllt onglog 4-pwynt
Dyluniad Philip Vaughan

Roedd Philip Vaughan (17571824)[1] yn ddyfeisiwr a haearnfeistr o Gymru a gofrestrodd batent gyda'r cynllun cynta o bêl-feryn yng Nghaerfyrddin yn 1794.[2] Roedd ei gynllun yn rhedeg ar hyd trac mewn cydosodfa echel, a adnabuwyd fel ras peli, ac felly yn darddiad i'r cynllun pêl-feryn modern.[3]

Roedd Cymro arall yn flaengar iawn yn y maes hwn, sef Joseph Henry Hughes o Birmingham a gofrestrodd batent am bêl-feryn amgen yn 1877. Dywedodd papur newydd y Times ar y pryd fod ei batent yn hynod werthfawr ("highly valued").[4]

Defnydd

[golygu | golygu cod]

Defnyddir Bearings yn y mwyafrif o beiriannau cylchdroi yn y byd modern - i'w cael trwy'r rhannau cylchdroi mewn ceir, beiciau, trenau, awyrennau ac ati. Mae'r Bearings peli modern hyn yn gweithio yn yr un ffordd yn union â dyfeisiad cychwynnol Vaughan. Maent yn gwneud cerbydau'n fwy effeithlon trwy leihau'r ffrithiant rhwng y rhannau symudol. Heb berynnau, ni fyddai ein byd mecanyddol yn gweithio.

Bywgraffiad

[golygu | golygu cod]

Roedd Vaughan yn berchennog ac yn asiant i'r ffowndri haearn yng Nghaerfyrddin ac yng Nghydweli. Roedd yn berchen ar un tŷ o'r enw 'Green Hall' ym mhentref y Four Road ger Cydweli, a defnyddiodd hefyd Villa ar fryn Llangynnwr, a adeiladwyd ar ei gyfer gan John Morgan Sr. Priododd ag Elizabeth Griffiths ym 1793 yn Eglwys San Pedr, Caerfyrddin.

Ar 1 Ionawr 1800 arwyddodd Philip Vaughan weithred cyd-berchnogaeth gyda John Morgan Junior, William a Thomas Morris, a William Morgan, y partneriaid i gyd yn cytuno i ddod â £12,000 mewn cyfranddaliadau cyfartal o £2,400 yr un. Ar yr un diwrnod cychwynnodd y cyd-bartneriaid brydles 21 mlynedd ar gyfer melinau rholio Caerfyrddin gan John Morgan Sr. Roedd y brydles yn cynnwys Kidwelly Forge, Blackpool Forge, y melinau tun a chymalau amrywiol ar gyfer y cwrs dŵr a arweiniodd at waith Caerfyrddin.[5]

Etholwyd Philip Vaughan yn fwrdeisydd Caerfyrddin ar 2 Hydref 1797.[6] Bu farw ym 1824. Aeth ei fab, o'r un enw, ymlaen i fod yn gyfreithiwr ac yn faer yn Aberhonddu.

Darllen

[golygu | golygu cod]
  • Carlisle, R. P. Scientific American Inventions and Discoveries: All the Milestones in Ingenuity, John Wiley & Sons, 2004. ISBN 0-471-24410-4
  • Rowland, K. T. Eighteenth Century Inventions, University of Michigan, 1974.

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. Philip Vaughan, Carmarthen 1757-1824
  2. Carlisle, p. 512.
  3. Rowland, p. 160.
  4. Roads Were Not Built for Cars: How cyclists were the first to push for good ... gan Carlton Reid; adalwyd Tachwedd 2015
  5. The Carmarthen Antiquary, Vol xii, 1976, pp. 31-54. http://www.carmants.org.uk/
  6. The Carmarthen Antiquarian Society, Vol ii, 1916-1917, pp. 60-61