Rhosgadfan
Math | pentref |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Gwynedd |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 53.0823°N 4.2185°W |
Cod OS | SH506572 |
Gwleidyddiaeth | |
AS/au Cymru | Siân Gwenllian (Plaid Cymru) |
AS/au y DU | Hywel Williams (Plaid Cymru) |
Mae Rhosgadfan ( ynganiad ) yn bentref bach ddistaw, rhyw bum milltir i'r dwyrain o Gaernarfon - i fyny at y mynyddoedd. Mae ysgol gynradd yna, a thafarn i'r clwb pêl-droed, "Mountain Rangers." Mae'r pentref i gyd ar lethrau bryncyn Moel Tryfan, sy'n un o droedfryniau Eryri.
Ar y ffordd i mewn i'r pentref, o Gaernarfon, trwy bentref Rhostryfan, i lawr tri-chwarter milltir o allt, mae hen gartref Kate Roberts - "Cae'r Gors". Mae hi yn un o awduron pennaf Cymru; "Brenhines y stori fer, yn ôl rhai". Mae yna sôn am adnewyddu "Cae'r Gors" yn ganolfan ymwelwyr i ddysgu amdani. Llenor arall a aned yn Rhosgadfan yw Richard Hughes Williams (tua 1878–1919), sef Dic Tryfan.
Uwchben y pentref a thu ôl i'r bryn, mae hen chwarel Rhosgadfan. Ond mae'n anodd iawn ei chyrraedd mewn car - haws yw cerdded ar hyd y llwybr o'r domen lechi i ogledd y bryn. Ceir golygfeydd gwych o gopa'r bryn: Bae Caernarfon, a goleuadau cychod Iwerddon–Caergybi, yr ochr draw i Ynys Môn - sydd i'w weld yn glîr i lawr i'r gorllewin, dros Afon Menai, a thref Caernarfon.
Mae clwb pêl-droed Mountain Rangers, sy'n chwarae yng Nghyngrair Caernarfon a'r Cylch, yn chwarae yn y pentref.
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Siân Gwenllian (Plaid Cymru)[1] ac yn Senedd y DU gan Hywel Williams (Plaid Cymru).[2]
Enwogion
[golygu | golygu cod]- Dic Tryfan - awdur storïau byrion
- Kate Roberts - awdur storïau byrion
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]Dinas
Bangor
Trefi
Abermaw · Y Bala · Bethesda · Blaenau Ffestiniog · Caernarfon · Cricieth · Dolgellau · Harlech · Nefyn · Penrhyndeudraeth · Porthmadog · Pwllheli · Tywyn
Pentrefi
Aberangell · Aberdaron · Aberdesach · Aberdyfi · Aber-erch · Abergwyngregyn · Abergynolwyn · Aberllefenni · Abersoch · Afon Wen · Arthog · Beddgelert · Bethania · Bethel · Betws Garmon · Boduan · Y Bont-ddu · Bontnewydd (Arfon) · Bontnewydd (Meirionnydd) · Botwnnog · Brithdir · Bronaber · Bryncir · Bryncroes · Bryn-crug · Brynrefail · Bwlchtocyn · Caeathro · Carmel · Carneddi · Cefnddwysarn · Clynnog Fawr · Corris · Croesor · Crogen · Cwm-y-glo · Chwilog · Deiniolen · Dinas, Llanwnda · Dinas, Llŷn · Dinas Dinlle · Dinas Mawddwy · Dolbenmaen · Dolydd · Dyffryn Ardudwy · Edern · Efailnewydd · Fairbourne · Y Felinheli · Y Ffôr · Y Fron · Fron-goch · Ffestiniog · Ganllwyd · Garndolbenmaen · Garreg · Gellilydan · Glan-y-wern · Glasinfryn · Golan · Groeslon · Llanaber · Llanaelhaearn · Llanarmon · Llanbedr · Llanbedrog · Llanberis · Llandanwg · Llandecwyn · Llandegwning · Llandwrog · Llandygái · Llanddeiniolen · Llandderfel · Llanddwywe · Llanegryn · Llanenddwyn · Llanengan · Llanelltyd · Llanfachreth · Llanfaelrhys · Llanfaglan · Llanfair · Llanfihangel-y-Pennant (Abergynolwyn) · Llanfihangel-y-Pennant (Cwm Pennant) · Llanfihangel-y-traethau · Llanfor · Llanfrothen · Llangelynnin · Llangïan · Llangwnadl · Llwyngwril · Llangybi · Llangywer · Llaniestyn · Llanllechid · Llanllyfni · Llannor · Llanrug · Llanuwchllyn · Llanwnda · Llanymawddwy · Llanystumdwy · Llanycil · Llithfaen · Maentwrog · Mallwyd · Minffordd · Minllyn · Morfa Bychan · Morfa Nefyn · Mynydd Llandygái · Mynytho · Nantlle · Nantmor · Nant Peris · Nasareth · Nebo · Pant Glas · Penmorfa · Pennal · Penrhos · Penrhosgarnedd · Pen-sarn · Pentir · Pentrefelin · Pentre Gwynfryn · Pentreuchaf · Pen-y-groes · Pistyll · Pontllyfni · Portmeirion · Prenteg · Rachub · Y Rhiw · Rhiwlas · Rhos-fawr · Rhosgadfan · Rhoshirwaun · Rhoslan · Rhoslefain · Rhostryfan · Rhos-y-gwaliau · Rhyd · Rhyd-ddu · Rhyduchaf · Rhydyclafdy · Rhydymain · Sarnau · Sarn Mellteyrn · Saron · Sling · Soar · Talsarnau · Tal-y-bont, Abermaw · Tal-y-bont, Bangor · Tal-y-llyn · Tal-y-sarn · Tanygrisiau · Trawsfynydd · Treborth · Trefor · Tre-garth · Tremadog · Tudweiliog · Waunfawr