Neidio i'r cynnwys

Tal-y-llyn (pentrefan)

Oddi ar Wicipedia
Tal-y-llyn
Mathpentref Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirGwynedd Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau52.6669°N 3.9083°W Edit this on Wikidata
Cod OSSH709094 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AS/au CymruMabon ap Gwynfor (Plaid Cymru)
AS/au y DULiz Saville Roberts (Plaid Cymru)
Map

Pentrefan bach a chyn plwyf yng nghymuned Llanfihangel-y-Pennant, Gwynedd, Cymru, yw Tal-y-llyn.[1][2] Saif ar lannau Llyn Mwyngil yn agos at bentref Abergynolwyn. Roedd y plwyf gwreiddiol yn 36,000 erw (15,000 ha).[3] Eglwys y Santes Fair, Tal-y-llyn, oedd canolfan y plwyf o'r canol oesoedd hyd ddatblygu'r diwydiant llechi yn ne Meirionnydd yn y 1780au. Agorwyd chwareli yn ardaloedd Corris ac Aberllefenni o blwyf Tal-y-llyn a daeth y pentrefi a thyfodd o amgylch y chwareli yn bwysicach o ran poblogaeth a gweithgarwch na phentref y llan.

Mae eglwys y plwyf yn dyddio o'r 13g, gyda'r strwythur presennol yn dyddio o tua 1590 (gydag olion yn awgrymu eglwys gynharach o'r 6g). [3] Mae'n adeilad rhestredig Gradd II *.[4] Mae John David Edwards (1805-1885), offeiriad Eglwys Loegr a chyfansoddwr yr emyn dôn Rhosymedre, wedi'i gladdu ym mynwent yr eglwys.[5]

Llifa Afon Dysynni allan o'r llyn ger pentref Tal-y-llyn, gan ymdroelli tuag at Fae Ceredigion i'r gogledd o Dywyn. Mae olion Llyn y Tri Greyeyn i'w gweld ar gyrion yr hen blwyf ym Mwlch Llyn Bach.

Adeiladwyd Rheilffordd Talyllyn yn y 1860au i wasanaethu'r chwareli ym Mryn Eglwys. Er na chyrhaeddodd at y llyn na'r pentref erioed, a ni fu cynlluniau iddi wneud hynny, roedd terfynfa'r rheilffordd yn y plwyf, a thrwy hynny yn rhoi ei henw i'r rheilffordd.[6] Bellach mae twristiaeth yn un o brif ddiwydiannau'r ardal, ac mae'r pentrefan yn cynnwys gwesty a thafarn.

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Mabon ap Gwynfor (Plaid Cymru)[7] ac yn Senedd y DU gan Liz Saville Roberts (Plaid Cymru).[8]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. "Rhestr o Enwau Lleoedd Safonol Cymru". Llywodraeth Cymru. 14 Hydref 2021.
  2. British Place Names; adalwyd 20 Ionawr 2022
  3. Tal-y-llyn ar safle GenUKI adalwyd 28 Chwefror 2020
  4. Coflein St Mair Tal-y-llyn adalwyd 28 Chwefror 2020
  5. Griffith, R. D., (1953). EDWARDS, JOHN DAVID (1805 - 1885), offeiriad a cherddor. Y Bywgraffiadur Cymreig; adferwyd 28 Chwefror 2020
  6. gwefan Rheilffordd Tal y Llyn, Hanes Adeiladu'r Rheilffordd Archifwyd 2020-01-01 yn y Peiriant Wayback adalwyd 28 Chwefror 2020
  7. Gwefan Senedd Cymru
  8. Gwefan Senedd y DU
Eginyn erthygl sydd uchod am Wynedd. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato