Siocled
Math | bwyd symbylydd, cynhwysyn bwyd, Cyfwyd, functional food, melysion |
---|---|
Deunydd | chocolate liquor, siwgr, cocoa butter, cocoa bean, cacao, cocoa, olew llysiau |
Gwlad | Mesoamerica |
Rhan o | cioccolato di Modica |
Dechrau/Sefydlu | 1750 (yn y Calendr Iwliaidd) CC |
Yn cynnwys | siwgr, cocoa bean |
Cynnyrch | cacao |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Bwyd a wneir goco a siwgr yw siocled. Mae siocled yn frown fel arfer, ond mae rhai mathau o siocled yn felyn ("gwyn") neu'n ddu. Po uchaf yw canran y coco, y gorau yw ansawdd y siocled.
Caiff siocled ei greu o gnau y goeden coco Theobroma cacao sydd yn hanu o goedwigoedd yr Amazon. Mae astudiaethau genetig yn awgrymu bod coed coco wedi cael eu tyfu gan bobl am bron i 3000 o flynyddoedd yn ne a chanolbarth America ac ymddengys y cawsant eu defnyddio i wneud diod. Mae'r enw 'siocled' yn tarddu o'r gair Nahuatleg am y math hwn o ddiod, xocolātl, sydd yn golygu 'dŵr chwerw'. Heddiw mae bron i 3/4 o gynnyrch siocled y byd yn dod o Affrica, gyda hanner y cynnyrch hwn yn dod o Arfordir Ifori.
Mae llawer o bobl ym Mhrydain Fawr yn hoff iawn o siocled. Maent yn "siocoholig", dywedir. [angen ffynhonnell] Mae hi'n bosib yfed siocled poeth hefyd.
Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- Celtnet: Disgrifiad o gnau coco Archifwyd 2011-12-24 yn y Peiriant Wayback