Susan Rice
Susan Rice | |
---|---|
Cynghorydd Diogelwch Cenedlaethol | |
Mewn swydd 1 Gorffennaf 2013 – 20 Ionawr 2017 | |
Arlywydd | Barack Obama |
Dirprwy | Tony Blinken |
Rhagflaenwyd gan | Thomas Donilon |
Dilynwyd gan | Michael T. Flynn |
27ain Llysgennad yr Unol Daleithiau i'r Cenhedloedd Unedig | |
Mewn swydd Ionawr 22 2009 – 1 Gorffennaf 2013 | |
Arlywydd | Barack Obama |
Rhagflaenwyd gan | Zalmay Khalilzad |
Dilynwyd gan | Rosemary DiCarlo (Dros Dro) |
12fed Ysgrifennydd Gwladol Cynorthwyol dros Faterion Affrica | |
Mewn swydd 9 Hydref 1997 – Ionawr 20 2001 | |
Arlywydd | Bill Clinton |
Rhagflaenwyd gan | George Moose |
Dilynwyd gan | Walter Kansteiner |
Manylion personol | |
Ganed | Susan Elizabeth Rice 17 Tachwedd 1964 Washington, D.C., U.D. |
Plaid gwleidyddol | Democrataid |
Alma mater | Prifysgol Stanford a Coleg Newydd, Rhydychen |
Diplomydd Americanaidd yw Susan Elizabeth Rice (ganwyd 17 Tachwedd 1964). Hi oedd y Cynghorydd Diogelwch Cenedlaethol o 2013 i 2017 yn ystod arlywyddiaeth Barack Obama. Cyn hynny, hi oedd Llysgennad yr Unol Daleithiau i'r Cenhedloedd Unedig rhwng 2009 a 2013.
Gyrfa
[golygu | golygu cod]Gwasanaethodd Rice ar bwrdd y Cyngor Diogelwch Cenedlaethol ac fel Ysgrifennydd Gwladol Cynorthwyol dros Faterion Affrica yn ystod ail dymor yr Arlywydd Bill Clinton. Cadarnhawyd Rice fel llysgennad y Cenhedloedd Unedig gan Senedd yr UD trwy gydsyniad unfrydol ar 22 Ionawr 2009.
Hi yw'r fenyw Jamaican-Americanaidd gyntaf i ddal y swydd honno. Dilynodd Rice Tom Donilon fel Cynghorydd Diogelwch Cenedlaethol. Cyhoeddwyd ymddiswyddiad Donilon ar Mehefin 5 2013.[1]
Ar 8 Mawrth 2017, ymunodd Rice â Phrifysgol America fel cymrawd ymchwil ymweliadol yn yr Ysgol Gwasanaeth Rhyngwladol (SIS) yn y brifysgol. Yn ei chyfnod preswyl, roedd hi'n bwriadu gweithio ar ei llyfr nesaf a mentora myfyrwyr SIS ifanc.[2]
Ar 28 Mawrth 2018, penodwyd Rice i fwrdd cyfarwyddwyr yn Netflix.[3]
Ras Senedd yr UDA 2018 ym Maine
[golygu | golygu cod]Ar ôl i seneddwr yr Unol Daleithiau Susan Collins o Maine bleidleisio o blaid Brett Kavanaugh dros y Goruchaf Lys, fe wnaeth Rice ystyried yn gyhoeddus her i Collins yn 2020.[4][5] Ym mis Ebrill 2019, fodd bynnag, cyhoeddodd Rice na fyddai’n ceisio rhediad Senedd yn erbyn Collins yn 2020.[6]
Etholiad arlywyddol 2020
[golygu | golygu cod]Ym mis Gorffennaf 2020, adroddwyd yn eang bod Rice yn cael ei hystyried fel phartner i Joe Biden ar gyfer Is-Arlywydd yn etholiad cyffredinol 2020.[7]
Bywyd personol
[golygu | golygu cod]Ganwyd Rice ar 17 Tachwedd, 1964 yn Washington, DC. Astudiodd ym Mhrifysgol Stanford a'r Coleg Newydd, Rhydychen. Americanwr Affricanaidd yw Rice yr oedd ei neiniau a theidiau mamol yn dod o Jamaica.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Tom Donilon resigns as Obama national security adviser Susan Rice to take over Archifwyd 2019-11-30 yn y Peiriant Wayback at Washington Post.com
- ↑ "Ambassador Susan Rice Joins American University School of International Service | News | School of International Service | American University, Washington D.C." American University (yn Saesneg). Cyrchwyd February 2, 2018.
- ↑ Spangler, Todd (2018-03-28). "Netflix Names Former Obama Adviser and U.N. Ambassador Susan Rice to Board". Variety (yn Saesneg). Cyrchwyd 2018-10-07.
- ↑ Bradner, Eric. "Susan Rice tweets 'Me' when asked who could challenge Sen. Collins in 2020". CNN. Cyrchwyd October 7, 2018.
- ↑ "Does Collins already have a challenger in Maine? 'Me,' says former Obama official". USA TODAY (yn Saesneg). Cyrchwyd October 7, 2018.
- ↑ Susan Rice Says She Won't Challenge Susan Collins in 2020, Associated Press (April 11, 2019).
- ↑ "In VP search, Biden has a known quantity in Susan Rice". AP NEWS. 2020-07-24. Cyrchwyd 2020-07-28.