Coup d'état De Fietnam (1963)
Gwedd
(Ailgyfeiriad o Coup d'état De Fietnam, 1963)
Enghraifft o'r canlynol | coup d'état |
---|---|
Dyddiad | 1 Tachwedd 1963 |
Rhan o | Rhyfel Fietnam |
Lleoliad | Dinas Ho Chi Minh |
Gwladwriaeth | De Fietnam |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Yn Nhachwedd 1963 cafodd Ngô Đình Diệm, Arlywydd De Fietnam, ei ddymchwel mewn coup d'état gan garfan o swyddogion Byddin Gweriniaeth Fietnam oedd yn anghytuno â'i fodd o ymateb i'r argyfwng Bwdhaidd a'i ormes o grwpiau cenedlaethol wrth frwydro yn erbyn y Ffrynt Rhyddid Cenedlaethol. Cychwynnodd y coup ar 1 Tachwedd dan arweiniad y Cadfridog Dương Văn Minh, a chafodd Diệm a'i frawd Ngô Ðình Nhu eu dal a'u lladd ar 2 Tachwedd.
Roedd gweinyddiaeth John F. Kennedy, Arlywydd yr Unol Daleithiau, yn ymwybodol o'r cynlluniau am coup, ond datganodd "Cebl 243"—neges a ddanfonwyd at y Llysgennad Henry Cabot Lodge, Jr. gan yr Adran Wladol—yr oedd yn bolisi yr Unol Daleithiau i beidio ag atal dymchweliad Diệm.
|