Ngô Đình Diệm
Ngô Đình Diệm | |
---|---|
Ganwyd | 3 Ionawr 1901 Huế, Phong Thủy |
Bu farw | 2 Tachwedd 1963 Dinas Ho Chi Minh |
Man preswyl | Tran Le Xuan Palace |
Dinasyddiaeth | De Fietnam, State of Vietnam, Indo-Tsieina Ffrengig |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | gwleidydd |
Swydd | Arlywydd De Fietnam |
Plaid Wleidyddol | Personalist Labor Revolutionary Party |
Tad | Ngô Đình Khả |
Llinach | Nguyen dynasty |
Gwobr/au | Urdd Teilyngdod am Sefydliad Cenedlaethol, Urdd Sikatuna, Urdd Croes y De, Urdd y Llew Gwyn, Gwobr Urdd y Goron a'r Frenhiniaeth, Maleisia, Urdd Llew'r Iseldiroedd, Urdd Sant Olav, National Order of Vietnam, Gorchymyn Cyffredinol San Martin, Order of Chula Chom Klao, Order of the Chrysanthemum, Urdd Isabel la Católica, Urdd San Fihangel a San Siôr, Urdd y Miliwn o Eliffantod a'r Parasol Gwyn |
llofnod | |
Arlywydd cyntaf De Fietnam oedd Ngô Đình Diệm ( ynganiad ) (3 Ionawr 1901 – 2 Tachwedd 1963). Wedi i Ffrainc encilio o Indo-Tsieina o ganlyniad i Gytundeb Genefa ym 1954, arweiniodd Diệm yr ymdrech dros greu Gweriniaeth Fietnam. Enillodd cryn cefnogaeth gan yr Unol Daleithiau oherwydd ei wrth-gomiwnyddiaeth gryf, ac ym 1955 enillodd buddugoliaeth mewn refferendwm a ystyrid wedi'i dwyllo. Datganodd ei hunan yn arlywydd cyntaf y Weriniaeth, a dangosodd sgìl gwleidyddol sylweddol wrth atgyfnerthu'i rym, ac yr oedd ei lywodraeth yn awdurdodaidd, elitaidd, nepotistaidd, a llwgr. Roedd Diệm yn Gatholig a gweithredodd polisïau oedd yn poeni ac yn gormesu y brodorion Degar a mwyafrif Bwdhaidd y wlad. Ynghanol protestiadau crefyddol a dderbynodd sylw rhyngwladol, collodd Diệm ei gefnogaeth gan yr Unol Daleithiau a chafodd ei fradlofruddio gan Nguyen Van Nhung, gweinydd y Cadfridog Duong Van Minh o'r ARVN ar 2 Tachwedd 1963, yn ystod coup d'état a ddymchwelodd ei lywodraeth.