Neidio i'r cynnwys

Ystoria Adaf ac Efa y Wreic

Oddi ar Wicipedia

Testun o apocryffa'r Hen Destament yw Ystoria Adaf ac Efa y Wreic sydd yn adrodd hanes Adda ac Efa wedi iddynt gael eu gyrru allan o Ardd Eden. Mae'r testun Lladin Vita Adae et Evae yn dyddio o'r 9g ac wedi ei ysgrifennu ar sail y testun Groeg Apocalyps Moses.

O ddiwedd yr 12g ymlaen, ac yn enwedig yn y 14g, cafodd y testun Lladin ei gyfieithu i sawl iaith yn Ewrop gan gynnwys Cymraeg Canol, Cernyweg, Llydaweg, Saesneg Canol, Hen Ffrangeg, Gwyddeleg Canol, Almaeneg, ac Eidaleg.

Ymddanosir y testun Cymraeg yn llawn mewn wyth llawysgrif o'r 14g hyd at y 18g, gan gynnwys Llyfr Gwyn Rhydderch a Llansteffan 27. Ceir sawl thema yn Adaf ac Efa sydd yn debyg i lenyddiaeth Gymraeg gynhenid yr Oesoedd Canol, megis Pedair Cainc y Mabinogi.[1]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. Furchtgott, Deborah. "Ystoria Adaf Ac Efa y Wreic and the Place of Apocrypha in the White Book of Rhydderch", Proceedings of the Harvard Celtic Colloquium, cyf. 31 (2011), tt. 106–117.

Darllen pellach

[golygu | golygu cod]
  • Brian Murdoch, The Apocryphal Adam and Eve in Medieval Europe: Vernacular Translations and Adaptations of the Vita Adae et Evae (Rhydychen: Gwasg Prifysgol Rhydychen, 2009).
  • Brian Murdoch a Jacqueline Tasioulas (gol.), The Apocryphal Lives of Adam and Eve (Lerpwl: Gwasg Prifysgol Lerpwl, 2002).